English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl enw'r cywelai

VSW026 Eileen Davies, Slimma-Dewhirst, Llanymddyfri

Gadawodd Eileen yr ysgol yn 18 oed (1969) ar ôl gwneud Lefel A mewn gwnïo a bu’n dysgu dosbarthiadau nos a.y.b. tan ar ôl cael ei merch, yna dechreuodd (tua 1977) yn Slimma, Llanymddyfri. Roedd y ffatri’n cynhyrchu trowseri â chanol lastig i M&S. Doedd neb yn torri yno a phob un yn gwnïo darn gwahanol. Teimla Eileen fod merched fferm yn gyfarwydd â gwaith caled. Caent gyfarwyddyd manwl (e.e. sawl pwyth y fodfedd) gan M&S. Bu Eileen yn tsiecio’r nwyddau, yna’n llenwi bylchau. Dim digon o gyflymder i fod ar y lein. Bu hefyd yn ffatri Llambed ar y jîns. Ar ôl gadael coleg bu mewn ffatri fach ym Mynydd Cynffig yn gwneud dillad o frethyn Cymreig. Wrth tsiecio yn Slimma roedd yn anodd dweud wrth weithiwr am ail-wneud rhywbeth. Cafodd swydd goruchwylwraig. Byddai cynnen os byddai peiriannau’n torri a’r gwaith ar stop. Dim uchelgais gan y merched. Ddim yn aelod o’r Undeb. Roedd y tomennydd dillad yn amsugno’r sŵn. Iechyd a Diogelwch - cario pwysau trwm. Byddai merched yn mynd i’r dafarn ar ôl cael tâl dydd Gwener. Twrci'r un adeg y Nadolig. Gadawodd hi i briodi.

VN004 Greta Davies, Ackroyd & Sons, Bala

Gweithiodd Greta mewn ffatri laeth cyn mynd i Ackroyds yn 1982, lle arhosodd hi am 12 mlynedd, yn gwirio'r dillad am ddifrod nodwydd yn gyntaf ac yn ddiweddarach yn eu smwddio. Yr oedd yn rhaid iddi sefyll am 8 awr y dydd ar fat arbennig. Roedd hi'n mwynhau'r ffatri fel lle i weithio: “Roedden ni'n cael rhyw brêc bach, roedden ni'n cael pum munud bob awr i fynd allan i gael smôc a mynd â phaned o de neu goffi o'r 'vending machines'. Mi oedd 'na gantîn da iawn yna, roedden nhw'n wneud tost yn y boreau, amser cinio roedden nhw'n gwneud cinio poeth. Roedden ni'n cael cinio Nadolig a phwdin Nadolig bob blwyddyn yna. Roedden nhw wedi addurno y cantîn i fyny yn smart iawn, "'atmosphere' neis iawn amser Dolig.” Roedd 'na fywyd cymdeithasol da iawn yno hefyd, gyda thripiau i lefydd fel Tywyn. Cafodd hi ei diswyddo yn 1994, pan benderfynodd y cwmni fewnforio pyjamas o Tsieina, ond mae wedi mynd yn ôl i Ackroyds yn achlysurol ers hynny i helpu yn ystod cyfnodau prysur.

VN030 Iorwerth Davies, Cookes Explosives, Penrhyndeudraeth

Bu Iorwerth yn gweithio yn Cookes Explosives am 46 o flynyddoedd, gan ddechrau yn 14 oed. Ni chafodd gyfweliad, aeth o i lawr i ofyn am swydd. Y pryd hwnnw, roedd y Blaid Lafur newydd ddod i'r brig a dechreuodd rheol newydd fod gweithwyr ifanc yn gorfod gorffen eu gwaith hanner awr cyn y gweithwyr hŷn, felly roedd Iorwerth yn gallu gadael y gwaith am 4.30. Roedd llawer o weithwyr ifanc yn Cookes achos ai llawer o bobl y pentref yno ar ôl gorffen yn yr ysgol. Roedd y bechgyn yn gorfod cyrraedd 16 a'r merched 18 oed i weithio efo'r ffrwydron. Gwnaeth Iorwerth nifer o swyddi yn Cookes yn ystod y 42 o flynyddoedd roedd o yno, gan ddechrau efo'r bagiau - 'paper shells' - yr oedd y ffrwydron yn mynd i mewn iddynt. Wedyn roedd y bagiau yma yn mynd i'r merched yn y lle pacio i gael eu llenwi efo ffrwydron. Ar ôl 16 oed, roedd o'n gweithio yn y cytiau efo merched a dynion eraill, dim efo'r ffrwydron eu hunain ond efo'r bagiau. Roedd dynion hefyd fel 'service waiters' yn mynd â bagiau rownd i bob cwt ac yn eu casglu nhw ar ôl iddynt gael eu llenwi. Symudodd i swyddi eraill yn ystod ei amser yno, gan orffen fel rheolwr cludiant, yn gofalu am gludo'r ffrwydron i ffwrdd i byllau glo - swydd gyfrifol iawn, achos roedd yn rhaid iddo eu gwneud nhw'n ddiogel trwy eu dad-ffiwsio nhw yn aml. Priododd un o ferched y cytiau, Mary

VSE017 Jim Davies, Weston's Biscuits, Pontypŵl;Ffatri Gwydr Pilkington, Pontypŵl;HG Stones, Pontypŵl

Mae Jim yn siarad am ei gefndir teuluol a’r iaith Gymraeg. Aeth i Gaergrawnt i ddarllen meddygaeth. Yn y gwyliau gweithiodd yn ffatri deganau HG Stone (1956). Roedd tua 8 menyw am bob dyn. Menyw yn gynllunydd. Gweithiai yn y stafell batent - disgrifia’r broses o wneud patent ar gyfer coes tedi. Yna ai at y stampwyr, y torwyr, y pwythwyr ar y llinell, yna at y stwffwyr ac yna i’w archwilio. Merched neis a pharchus yno. Eto roedd peth tynnu coes. Yn Weston’s Biscuits (wedyn Burton's Biscuits) - roedd 'tannoy' yn chwarae 'Housewife’s Choice'. Yn HG Stone roedd cynllun noddwyd gan y llywodraeth ar gyfer gweithwyr anabl - dynion ‘cerdyn gwyrdd’. Gwahaniaethau dosbarth yn y ffatri. Gweithiodd Jim yn y ffatri fisgedi a’r slogan ‘6 million eaten everyday!’ hefyd fel gwas yr iard, yn fflatio tuniau gwag yn fetel sgrap. Cofia'r menywod yn canu; rhaniad dosbarth rhwng gweithwyr y swyddfa a’r llawr. Bu’n Pilkington’s Glassworks hefyd un gwyliau fel gwas yr iard eto; gwaith caled ac undonog. Llawer o dorri gwydr - gwaith peryglus. Trwy weithio yn y ffatrïoedd mae’n gwerthfawrogi sut brofiad yw 'bod ar waelod y pentwr.’ Roedden nhw’n bobl uniongyrchol, ffraeth a ffres. Bu’r profiad o werth iddo yn ei fywyd.

VN010 Marion Davies, Ffatri wlan, Glyn Ceiriog;Ffatri frics, Newbridge

Gweithiodd Marion yn Ffatri Wlân Glyn Ceiriog yn syth ar ôl gadael yr ysgol, yn 14 oed, fel ei chwaer Beti. Roedd hi ar y 'bobbins' drwy'r amser. Gadawodd hi ar ôl i'r ffatri gau yn 1952, ac aeth i weithio mewn ffatri gwneud brics yn Newbridge, ger y Waun. Roedd y gwaith yn drwm iawn, yn gosod y clai ac yn troi olwyn i'w wasgu. Roedd merched a dynion yn gweithio yno, dynion gan amlaf oedd yn gweithio yn y 'kilns' a'r merched, gyda rhai bechgyn, yn gwneud y gwaith gwasgu a throi'r olwyn. Roedd mwy o bobl yn gweithio yno nag yn y ffatri wlân ac roedd y cyflog yn well hefyd, dydy hi ddim yn cofio faint oedd ei chyflog hi. O ran cyfleusterau, roedd gan y ffatri frics ryw fath o gantîn, gyda dynes yn gwneud paned o de i'r gweithwyr, ac roedden nhw'n dod â’u bwyd eu hunain neu’n talu am ginio yno. Roedd y gwaith yn eithaf peryglus, roedd perygl colli bys os oeddech yn rhy araf gyda'r 'presses', wrth roi'r clai i mewn a throi'r olwyn. Roedd hyn wedi digwydd i un neu ddwy, meddai, ond nid iddi hi. Gadawodd hi waith ffatri toc wedyn ac aeth i weithio yn Boots Chemist tan iddi ymddeol.

VN005 Mary Macdonald Davies, Dolgarrog Aluminium, Dolgarrog;ffatri rwber, Llanrwst

Gweithiodd Mary (Macdonald) Davies yn ffatri Dolgarrog, ar ôl cyfnod byr yn gweithio mewn popty. Bu'n gweithio yn bennaf yn y felin ysgafn, fel y rhan fwyaf o'r merched, ond yn aml byddai'n mynd i helpu'r dynion yn y felin fawr, yn codi shîts alwminiwm ar y rholar. Chafodd hi ddim hyfforddiant a gallai'r gwaith fod yn beryglus. Mae'n cofio damwain yn fuan ar ôl iddi ddechrau. Cafodd hi ei brifo gan shît o aliwminiwm a oedd wedi dod yn rhy gyflym o'r rholar. Doedd hi ddim yn ddigon cyflym i symud allan o'r ffordd a thrawodd y shît hi yn ei choes.Mae'n cofio'r poen hyd at heddiw, ond dywedodd y ferch oedd i fod i ddangos i Mair beth i'w wneud 'pick it up.' Felly dyna wnaeth hi, a chario ymlaen. Gadawodd hi Ddolgarrog i gael ei merch ac aeth hi ddim yn ôl yno. Bu'n gweithio hefyd yn y ffatri rwber yn Llanrwst, lle roedden nhw'n gwneud dillad glaw, am gyfnod byr wedyn.

VN025 Nesta Davies, Unilateral Capacitors, Wrecsam;Filmcap (Hunts capacitors), Wrecsam;Ffabrigau Johnson, Wrecsam

Ar ôl gadael ysgol, roedd Nesta yn gweithio mewn becws, yn gwneud cacennau eisin a glanhau byrddau ond roedd y cyflog yn wael a bu'n rhaid iddi ddal bws i mewn i Wrecsam. Ar ôl hynny, bu'n gweithio mewn golchdy yn Llangollen, shîts golchi ar gyfer gwestai, ac roedd yn rhaid iddynt godi shîts a'u rhoi yn y rholeri. Roedd yn waith caled iawn ac ni allai ymdopi ac ar ôl tua chwe wythnos clywodd am swydd mewn ffatri yn Llangollen, a oedd yn gwneud blancedi gwlân. Dechreuodd hi yno yn 1946; bu hi dair blynedd yn y ffatri flancedi, ac yna aeth i ffatri gwneud tywelion mislif yn ddwy ar bymtheg. Dywedodd fod y ffatri dywelion mislif a Ffatri Johnson Fabrics ym Marchwiel, sydd bellach yn ystâd ddiwydiannol Wrecsam. Cyfarfu â'i gŵr yn Johnsons Fabrics. Roedd e’n arfer glanhau’r fflwff ar yr gwyddiau a dywedodd merch Nesta, Julie, bod ei thad yn gwneud esgusodion i ddod i lanhau gwŷdd Nesta drwy'r amser, a dywedodd Nesta "Roedd gen i'r gwŷdd glanaf yn y lle." Gweithiodd Nesta mewn nifer o ffatrïoedd yn Wrecsam a'r cyffiniau, gan gynnwys Johnsons, yn gwneud ffabrigau; a Hunts, a oedd yn gwneud unedau ar gyfer offer trydanol, a Unilateral Ceramics. Symudodd ffatrïoedd yn aml am wahanol resymau, ee. ymrwymiadau teuluol neu fwy o arian. Enillodd lawer o brofiad gwaith ac, mewn un ffatri, cododd hi i fod yn 'chargehand'. Mwy na thebyb, cafodd gwaith ffatri effaith ar ei hiechyd a gorffennodd y gwaith hwn yn 1978, yn 47 oed, a bu'n gwneud swyddi eraill wedyn, e.e. glanhau.
Nesta yn gadael y Ffatri Serameg, 1970auNesta wrth y gwŷdd yn Johnsons Fabrics, c.1950

VN035 Peter Davies, Ffatri Frics Ruabon, Ruabon

Gweithiodd Peter mewn nifer o iardiau brics ar ôl gadael yr ysgol, yn bennaf Ruabon Red Bricks, a oedd yn gwneud teils llawr byd-enwog. Doedd o ddim yn hoffi'r ysgol felly aeth o i lawr i'r ffatri frics i ofyn am swydd, gan eu bod nhw yn cymryd unrhyw un. Roedd ei rieni yn falch ohono am fod yn annibynnol ac wedi cael gwaith. Gwnaeth amrywiaeth o swyddi, rhai ohonynt yn beryglus, ac roedd llawer o ddamweiniau yn ystod ei amser yno, yn enwedig wrth yrru'r tryciau 'forklift', rhai yn angeuol. Roedd perthynas dda rhwng y dynion a'r merched, llawer o sbort. Gadawodd yr iard frics ar ôl cwffio efo cydweithiwr a chafodd y ddau ohonynt eu diswyddo. Ond aeth o'n ôl am gyfnod byr cyn gadael yn gyfan gwbl. Symudodd i ffatri arall am sbel ac wedyn aeth i mewn i'r diwydiant adeiladu, a oedd yn llawer gwell o ran arian.

VSE032 Violet Ann Davies, Ffatri Sigarau JR Freeman, Caerdydd;Currans, Caerdydd

Gadawodd Ann yr ysgol yn 15 oed (1955) ac aeth yn syth i’r ffatri sigarau yn Clive Street. Roedd y peiriannau yn beryglus - dim gardiau. Canu a chwarae triciau. Gwynt y baco yn glynu wrthych. Mae’n enwi’r merched y bu’n gweithio gyda nhw. Cael 200 sigarét y mis. Gwaith ar dasg. Disgrifia’r prosesau. Gwneud 3000-4000 o sigarau'r dydd rhwng dau beiriant. Yn falch ei bod yn gwneud sigarau King 60s ac Indian Sticks. Bu’r cwmni’n gefnogol pan aeth ei mam yn wael a phan fu’n rhaid iddi hi gael amser i ffwrdd. Tal salwch. Symud i’r ffatri newydd yn 1960 - un ystafell fawr. Radio a cherddoriaeth. Gadawodd pan oedd yn feichiog yn 1962 ond dychwelodd i’r shifft gyda’r nos yn 1963 tan iddi fynd yn dost. Tlodi a dim esgidiau i’w gwisgo. Dywed hanes Pat Perks - gymnastwraig fu’n cystadlu yng ngemau’r Gymanwlad. Casglodd y ffatri arian i dalu am ei dillad a.y.b. Gweithiodd Ann yn rhan amser yn Curran’s, ffatri sosbenni a baddonau yn 1976-78. Roedd yn gweithio ar sosbenni a gâi eu dychwelyd. Gwrthododd weithio allan yn yr iard. Gweithiai ei thad yno adeg y rhyfel - llosgiadau difrifol o’r plwm berwedig. Yn ddiweddarach bu hi’n ofalwraig yn y cartref am 23 mlynedd.
Ann Davies yn y gwaith yn Ffatri Sigarau J.R. Freeman,  1957

VSE015 Luana Dee, Sobells, Aberdâr;TBS South Wales Ltd, Merthyr;NATO clothing factory, Rhymni;Guest Keen and Nettlefold (GKN), Merthyr;Thorns, Merthyr;Berlei Bras, Dowlais;Lines (Triang), Merthyr

Mae Luana yn sôn am ei chefndir teuluol lliwgar a dychwelyd i Ferthyr o dramor. Gadawodd yr ysgol yn 15 oed (1967) ac yn fuan wedyn dechreuodd weithio yn Berlei Bras fel 'machinist' (2 flynedd). Cymysgedd o ferched swil a chryf yno. Peiriannau gwych Almaenig Pfaff. Sioeau ffasiwn gyda’r cyflogeion yn modelu dillad isaf. Gwaith ar dasg - talu am bob bra. Taflu’r 'seconds' mewn biniau - trwsio a ddim yn ennill cyflog wedyn. Ei golwg yn dda ac roedd yn gyflym -felly ei rhoi ar y bras duon. Gwaith mwy anodd a cholli arian. Cafodd ei symud i’w stopio rhag creu trwbwl. Rhaid gofyn i fynd i’r toiled a’r oruchwylwraig yn curo’r drws. Yn cael eu gwylio drwy’r amser. Diswyddo - ansawdd ei gwaith? Neu rhy fyrbwyll? Yn syth i swydd arall. Yn BB roedd y sioeau ffasiwn ar lawr y ffatri - cystadleuaeth Miss Berlei Bra? Disgrifia’r ffatri. Ensyniadau rhywiol yn gyffredin. Dawnsfeydd Nadolig a thripiau. Nesaf - i ffatri Triang - gwnïo clustogwaith trwm (arhosodd 1 flwyddyn). Cael hwyl gyda bois y ffatri ym Mharc Cyfarthfa ar bnawniau Gwener. Deuai rhai dynion â lluniau pornograffig i’r ffatri - agoriad llygad. Gadael oherwydd dim dyfodol yno. Ymlaen i Thorn’s yn gwneud ffilamentau bylbiau golau. Disgrifia’r broses. Siapaneaid yn cymryd drosodd - mwy o straen ac arhosodd lai na blwyddyn. Symud i ffatri yn gwneud dillad diwydiannol i NATO - gwnïo trwm, mwy o ddynoliaeth yma. Yn ffatri TSB roedden nhw’n gwneud cabinetiau ffeilio ac roedd yn cyfathrebu’n dda gyda'i chydweithwyr. Roedd hi yn y swyddfa nawr. Dim ond am wythnosau y bu hi’n Sobell’s - lle enfawr, diwydiannol ac estron.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain

Administration