Pori'r cyfweliadau
Trefnwyd yn ôl enw'r cywelai
VN055 Beryl Buchanan, Ferranti, Bangor;Hotpoint, Llandudno;Mona Products, Porthaethwy
Aeth Beryl i Mona Products yn syth o'r ysgol yn 1958. Roedd y ffatri hon yn gwneud dillad i Marks & Spencers. Gwnïo coleri yn sownd i’r crysau T a hefyd y llewys, a rhoi lastig yn y nicyrs, a gwnïo 'gussets' roedd hi’n ei wneud. “Doedd na’m basic wage. Ac felly oedd rhaid i chdi fynd fel coblyn ar y mashîn ‘de i neud cyflog i fyny.” Doedd dim rheolau iechyd a diogelwch yr adeg honno. Roedd cantîn bach yno. Dim ond rhyw ddau ddyn oedd yn pacio ac un ar dractor bach oedd yn cario pethau, y rheolwr ei hun a dau fecanic. Byddai'r ffatri yn canu miwsig – radio ac uchelseinydd. Y dynion oedd yn dewis beth oedd arno – tebyg i 'Workers’ Playtime' a'r newyddion. Gadawodd Beryl yn 1960 i fynd i Ferranti's. Roedd teirgwaith mwy yn gweithio yn Ferranti’s nag ym Mona Products. Bu’n gweithio yn 'laminations' Ferranti yn gwneud topiau 'sports cars' a chyfars lledar iddyn nhw. Roedd hi'n llawer hapusach yn Ferranti – roedd llawer mwy o hwyl yno. Llawer gwell lle a chael cyflog a bonus. Bu hi yno tan 1968, pan aeth i Hotpoint am rai misoedd. Ond doedd hi ddim yn hoffi Hotpoint a dychwelodd i Ferranti. Priododd Beryl yn ystod y cyfnod hwn a stopiodd hi weithio pan gafodd hi blant.VSW020 Rita Davies & Meirion Campden, Croydon Asbestos, Milford Haven;Myfanwy Products, Gorseinon;Ffatri Grysau Glanarad, Castell Newydd Emlyn
Gadawodd Rita(1945) a Meirion (1949) yr ysgol yn 14oed. Dechreuodd Rita yn syth yn ffatri grysau Glanarad a gadael i briodi (1954), gan ddychwelyd ar ôl tair blynedd. ac ymunodd Meirion (?1949- c 1995). Johnny Morgan oedd y bòs, brawd perchennog warws J T Morgan, Abertawe. Hemo crysau gwlanen oedd y job gyntaf. Arian poced o’r cyflog. Byddai‘r bòs yn eu taro ar eu pennau â phensil neu eu pinsio os oeddent yn siarad. Bu Rita ar y peiriant botymau a Meirion yn gwneud y crysau. Llyfr i gofnodi eu gwaith. Wedyn cymerwyd y gwaith drosodd gan Myfanwy Products, Gorseinon yn gwneud dillad doliau a sioliau am 2-3 blynedd. Yna Croydon Asbestos a gwnïo lledr (gwaith trwm) gyda pheiriannau diwydiannol. Y menywod hŷn yn garedig. Caent anrheg o ddilledyn o warws J T Morgan adeg y Nadolig a thrip i Landrindod fis Mehefin. Rhif y gweithiwr ar y crysau. Bu’n rhaid i Meirion fynd i’r ysbyty ar ôl gwnïo’i bys. Aeth Rita i’r gwaith mewn rolyrs a thwrban. Caeodd Croydon Asbestos c.1996.VSE060 Rosalind Catton, Revlon, Maesteg;New Stylo, Penybont;Anglomac, Penybont
Gadawodd Rosalind yr ysgol yn 15oed (1958) a dechreuodd yn fuan yn Ffatri Anglomac, a oedd yn gwneud cotiau glaw. Roedd yn yr ystafell dorri - tan ei bod yn 18 dim ond gosod y defnydd allan y câi’i wneud. Roedd y torwyr i gyd yn fenywod. Caeodd y ffatri ar ôl tua blwyddyn ac aeth hi i’r ffatri esgidiau. Cred bod stigma mewn bod yn ferch ffatri. Gallai’r gyllell dorri fod yn beryglus. Mantais - prynu cotiau glaw a chael riliau cotwm. Yn New Stylo byddai’n addurno’r esgidiau gan ddefnyddio peiriant styffylu i osod yr addurn. Bu yno am flwyddyn. Ffatri fwy a mwy o gyfleusterau. Yn ddiweddarach ar ôl cael y plant aeth i Ffatri Revlon (tua 1969) ar y shifft mamau - 10-2 o'r gloch. Gwaith cyflym iawn ac anniddorol. Un dasg oedd rhoi top potel arno a’i tharo â gordd. Diddiwedd ac roedd yn rhaid i rywun gymryd ei lle petai eisiau mynd i’r toiled. Siaradai rhai o’r menywod hŷn lawer am bethau rhywiol. Gweithiodd yno’n ysbeidiol am gyfnod.VSE067 Christine Chapman, Roller Blind Factory, Llwynypia;Gainsborough Flowers, Porth
Gweithiai mam Christine mewn ffatrïoedd e.g. Flex Fasteners a byddai’n ffeindio jobs gwyliau rhan amser iddi. Gweithiai yn Ffatri Gainsborough Flowers pan oedd yn y chweched dosbarth, yn gwneud blodau artiffisial ar beiriannau hen ffasiwn. Byddai’n defnyddio cannwyll hyd yn oed! Pan oedd hi yn y brifysgol gweithiodd mewn ffatri gwneud llenni rholer. Teimlai fod rhai menywod yn gas - yn chwarae triciau arnyn nhw. Daeth yn effeithlon iawn wrth ei gwaith yn y ffatri rholeri a gofynnodd person yr undeb iddi arafu. Roedd math o fwlian yno. Byddai’r bosys yn siarad i lawr â’r menywod. Gweithiai hi ar y 'presses'. Roedd yn rhaid cael caniatâd i fynd i’r toiled. Gweithiai yn y ffatri flodau tua1973-4. Byddai’r radio ymlaen a thynnu coes drwy’r amser. Arferai hi freuddwydio a chynllunio ymlaen. Sonia am y straeon amheus ac mae’n dweud un. Sonia am beth harasio. Dim ond pasio drwy’r ffatri yr oedd hi. Dysgodd lawer am fygythiadau hefyd - bu hynny o fudd iddi fel gwleidydd. Roedd sut y câi’r menywod eu trin gan y rheolwyr yn wers ffeministaidd gynnar. Roedd hi wedi bod yn y byd real. Mae’n sôn am ei gyrfa fel gwleidydd Llafur.VSE012 Margaret Chislett, The Bag factory, Llwynypia;Polikoff's, Treorci
Gadawodd Margaret yr ysgol yn 15oed (1937) a gweithiodd fel nani am flwyddyn yn Llundain cyn ymuno â Polikoff’s yn 1938. Yno roedd yn cwblhau archeb yr Arglwyddes Churchill - cotiau mawr i fyddin Rwsia. Trwm iawn - eu gwisgo at eu pigyrnau. Hefyd gwneud iwnifform byddin Montgomery yng Ngogledd Affrica. Cyfrannai 2g at y Groes Goch a 2g at gronfa’r Arglwyddes Churchill o’i phae. Gallai weithio unrhyw le ar y lein. Roedd yn rhoi hemiau ar yr archeb Rwsiaidd. 2,500 o weithwyr yno pan yn ei fri. Daeth ENSA i’w diddanu. Bu yno am 9½ mlynedd. Prynodd ei mam sidan parasiwt i wneud peisiau a nicers. Cyfarfodydd Undeb yn erbyn gweithio ar y Sul. Gwisgai bib a bresys a throwser am y tro cyntaf. Nodwydd yn ei bys. Y radio’n canu caneuon Vera Lynn. Glanhau eu peiriannau ar brynhawn Gwener, balchder ynddynt. Adeiladwyd y ffatri ar gyfer gweithwyr o ddwyrain Llundain. Gadawodd pan yn feichiog. Doedd menywod ddim i fod i weithio ar y Sul. Byddai llinellau gwahanol yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol. Gwyliau â thâl o 1948 ymlaen. Rhaid cyfrannu at dâl Gwyliau Banc. Ar ôl y rhyfel roedden nhw’n gwneud siwtiau de-mob. Gadawodd yn 1949. Mwynhaodd yno gan ei bod yn cwrdd â menywod gwahanol - capelwyr Bethany Gelli â’u dramâu a chlwb hoci a merched y tafarnau â’u dawnsfeydd. Yn ddiweddarach bu’n gweithio yn y ffatri fagiau - gwneud bagiau i M&S - yn eu gwnïo â pheiriannau. Yna caeodd y ffatri ar ôl tua 2 flynedd.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain