Pori'r cyfweliadau
Trefnwyd yn ôl lleoliad y ffatri
Aberafan: Gwaith Aliwminiwm Wern
VSE040 Isabel Thomas, Gwaith Tin Mansel, Aberafan;Gwaith Aliwminiwm Wern, Aberafan;Metal Box, Castell Nedd
Gadawodd Isabel yr ysgol yn 14oed (1942) ac aeth i weithio i waith Tunplat Mansel (roedd yn amddifad). Roedd ei chwaer yn gweithio yno a dwedodd wrth y rheolwr fod Isabel yn 16 oed. Dysgodd dasgau gwahanol: ar y sheers a'r gilotîn. Twyllodd ynglŷn â’i hoedran eto i fynd i’r Wern. Disgrifia dorri’r tunplat a gweithiai’r menywod y rholer yno hefyd. Yna ai i mewn i ddŵr a byddai’n rhaid ei sythu eto. Gwisgai ddyngarîs â chlytiau. Torri ei bysedd. Lladdwyd menyw yn y gwaith alwminiwm. Roedd Isabel yn gorweithio. Gwaith shifft yn y Wern. Lladdwyd bachgen yn y Mansel hefyd - syrthiodd shîts arno. Yn y Wern roedd yr alwminiwm yn dod allan o’r baddon hallt yn boeth. Gwisgent fenig trwchus. Aelod o undeb. Dysgu rhegi. Stori am roi carthydd i’r fforman. Disgrifia’i gwaith yn y Wern. Crafu alwminiwm - hanner awr yn gweithio, hanner awr i ffwrdd yn yr ystafell dawel. Gwnaeth ei chwaer fat rhacs o got un o’r gweithwyr! Canu gyda’r piano yn y cantîn. Daeth y dynion adre o’r rhyfel a mynd â swyddi’r merched a chael gwell tâl. Dawnsfeydd a cherddoriaeth. Ni châi fynd i Fargam adeg y rhyfel oherwydd yr Americanwyr yno. Noda’r hiliaeth. Arhosodd yn y Wern 5 mlynedd - torron nhw’i chyflog a symudodd i’r cantîn. Bu yn y Mansel am ddwy flynedd. Gweithiodd yn Metal Box am dri mis c. 1952, yn gwneud topiau tuniau tomatos - swydd hawdd.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain

Aberafan: Gwaith Tin Mansel

Aberbargoed: St Margaret's Clothing Factory
VSE066 Alice Jill Baker, St Margaret's Clothing Factory, Aberbargoed
Gadawodd Jill yr ysgol yn 16oed (1953) a dechrau yn y ffatri ddillad, yn gwneud dillad i M&S. Roedden nhw’n gwneud blowsys, pyjamas dynion, a 'liberty bodices'. Mae’n trafod y jobs gwahanol. Cafodd hi bolio pan oedd yn blentyn ac yn y ffatri cafodd troedlath y peiriant gwnïo ei addasu ar ei chyfer. Gwaith ar dasg - byddai coleri yn 2/6 y dwsin. Roedd hi’n dda am wneud coleri a sips. Gallai wneud 10 dwsin o sips y dydd. Eglura gymhlethdodau gweithio am fonysau. Amser a symud. Roedd prynwyr M&S yn drwyadl iawn. Roedd yn mwynhau’r cwmni ond yn casáu gwnïo. Er bod rhai yn gwrs braidd ac yn rhegi bydden nhw’n barod i helpu eraill petai angen. Roedd ffatrïoedd eraill yn Lloegr a byddai cystadleuaeth brenhines harddwch ym Margod ei hun. Roedd ganddynt gylchlythyr hefyd. Cyflog - i’w mam a chael arian poced. Ni châi fynd ar fwyd a llety tan ei bod yn 18 oed. Mae’n sôn am y raddfa 'fall-back' newydd a olygai lai o arian a cherddodd allan am ei bod yn annheg ac am fod y goruchwyliwr wedi bod yn anghwrtais wrthi. Roedd wedi gweithio yno am 10 mlynedd. Dychwelodd yn rhan-amser yn ddiweddarach ond erbyn hynny doedd pethau ddim yr un fath. Roedd gwaith ffatri yn brofiad iddi.Abercynon: AB Metals
VSE028 Marion Blanche Jones, Hoover, Merthyr;Teddington Aircraft, Merthyr;Birmingham Small Arms, Dowlais;AB Metals, Abercynon;Kayser Bondor, Merthyr
Gadawodd Marion yr ysgol tua16 oed (1951) a dechreuodd yn Kayser Bondor - tan 1958. Teimla iddi gael ei gyrru o un man i’r llall yno, felly gadawodd. Gan nad oedd ganddi swydd barhaol yno roedd yn anodd ennill arian da. Canu a chwifio i’r hoff ganeuon. Symudodd i AB Metals - yn gwneud tiwnwyr teledu. Cafodd ei diswyddo ar ol 2-3 years - caeodd yr uned deledu. Yn Kayser Bondor deuai adre’n crio am nad oedd yn ennill llawer. Roedd wrth ei bodd yn AB Metals. Rhoddai ei holl bae i’w mam nes iddi farw (1960). Yn nesaf bu yn BSA yn gwneud darnau o ynnau - caeodd o fewn blwyddyn. Yna yn Teddington’s yn gwneud darnau ar gyfer awyrennau. Glanhau coiliau dan chwyddwydr. Yna aeth i Hoover’s yn 1963. £10 yr wythnos a bonysau bob wythnos, mis a Nadolig. Yna dechreuodd mater cydraddoldeb. Roedd hi’n aelod o undeb ac yn 'shop steward.' Gweithiai ar y bagiau gwaredu newydd. Wedi pasio Deddf Tâl Cyfartal,1970 - aeth y dynion yn chwerw. Gwyddai’r menywod bod merched Ford’s (Dagenham) yn cael tâl cyfartal. Cysyllton nhw ag Ann Clwyd am gyngor. Aethant ar y rheolwyr ond dwedodd y 'convenor' nad oedden nhw’n gwneud yr un gwaith â’r dynion. Y dynion ar streic ond bu'n rhaid ildio. - drwg deimlad am flynyddoedd. Nid brwydr yn erbyn y cwmni ond yn erbyn yr undeb. Disgrifia newid yn y peiriannau. Tua 7000 o gyflogeion yn nhair ffatri Merthyr. Hoover yn cydnabod gwasanaeth 5,10,15,20 and 25 mlynedd - mwclis. Disgowntiau da i staff. Blynyddoedd o draul ar ei chorff. Swnllyd ac iawndal. Digwyddiadau gan yr adrannau gwahanol - ond newid pan gymerodd cwmnïau eraill drosodd. Gadawodd yn 1992 ar ôl 29 mlynedd.

VSE069 Kath Mathias, AB Metals, Abercynon;Kayser Bondor, Merthyr;Pentrebach polish factory, Merthyr
Gadawodd Kathleen yr ysgol yn 15oed (1955) a dechrau yn y swyddfa yn y ffatri gwneud polish - bu yno 9 mis. Roedd yn dywyll a diflas felly symudodd i ffatri Kayser Bondor. Gweithiai yn y swyddfa 'ticketograph' - telid y cyflogau yn ôl y tocynnau a gesglid. Yna aeth ar gwrs comptomedr a symud i’r adran gyflogau. Eglura’r comptomedr. Talodd y cwmni am y cwrs. Symudodd y ffatri i Ddowlais. Bws am ddim adre. Daeth yn oruchwylwraig (1960). Tan ei bod yn 18 oed cymerai ei mam ei holl bae (arian poced yn unig) ond yna aeth ar fwyd a llety. Mynd i ddawnsio. Gadawodd am Lundain (chwe mis) ond dychwelodd i Ffatri AB Metals, ac yna i Kayser Bondor (adran gyfrifon) eto ac yna cafodd fabi. Os oeddech chi’n gyflym ac yn gywir gallech ennill llawer o arian yn KB. Stori am ei modryb a’i dallineb ac yn prynu tafarn gyda’r arian enillodd hi. Roedd y rhai ar lawr y ffatri’n ennill mwy na merched y swyddfa. Enillai’r dynion fwy na’r merched. Fel goruchwylwraig byddai’n archebu’r arian cyflog - e.e. hyn o hyn o bapurau £1. Gweithien nhw’r system Kalamazoo. Trafferth am oferôls staff y swyddfa. Gweithio blwyddyn cyn bod hawl i gael tâl gwyliau. Noda lle bu ar wyliau - o Blackpool i’r Eidal. Dawns Nadolig yn Neuadd y Ddinas Caerdydd - gyda thrên arbennig. Bu yn gweithio yn ffatrïoedd eraill KB hefyd e.e. yn Brighton - math o brofiad gwaith. Bu’n gweithio hefyd mewn ffatri dillad wedi’u gwau yng Nghaerlŷr am 5 mlynedd a bu’n rhedeg tafarn hefyd.VSE006 Sylvia Ann Reardon, AB Metals, Abercynon;Copygraph, Trefforest
Disgrifia Sylvia ei mam yn gweithio fel glanhawraig ac yn croesawu faciwîs. Yna aeth i fyw mewn tŷ capel - caethwasanaeth. Roedd ei thad yn Gomiwnydd. Aeth Sylvia i Goleg Masnachol Clarke’s, gadael yn 18 (1966), gweithiodd i’r bwrdd trydan, yna’n ffatri Copygraph, Trefforest, roedd yn casáu yno a bu’n chwarae triwant. Yna aeth at gyflogwr mwya’r ardal AB Metals - i’r adran anfonebu lle gweithiai fel ci. Bu yno o 1959-1966. Teimlo fel cocsen bwysig yn yr olwyn. Ugain bws AB, er gorfod talu. Gwnaeth un camgymeriad enfawr gyda’r dogfennau allforio. Gwnâi’r ffatri diwnwyr ar gyfer teledu ac offer electronig arall. Manylion y swydd. Roedd rhai menywod yn gorfod arwyddo’r Ddeddf Gyfrinachau Swyddogol. Prosesau cymhleth. Nifer enfawr o gwsmeriaid. 4000 o weithwyr - diswyddiadau. Helpu ffrind i gael swydd mewn pwll glo. Ffyddlondeb i bobl ar eich llinell, ac yn eich swyddfa. Diwrnod cyntaf swyddfa orlawn ac ysmygu Woodbines. Lle gwych i weithio - rhoddodd hyder a medrau iddi. Cwyno am ddiffyg lle - tynnon nhw’r nenfwd lawr. Dim undeb i staff swyddfa - trefnu talu’n gyfrinachol. Dynion yn cael 75% yn fwy o gyflog na menywod. Bu’n gynrychiolydd Undeb. Cynilo gyda National Savings. Stori am roi 'dexadrine' ac amffetaminau i gyd-weithwyr i hybu cynhyrchiant. Symptomau diddyfnu wedyn. Cantinau ar wahân - swyddfa/llawr y ffatri. Bywyd cymdeithasol: mynd i glybiau; sgetsys. Cymryd gofal o fam ddi-briod. Doedd hi ddim yn cymysgu gyda merched llawr y ffatri. Rhoddodd y ffatri ryddid i fenywod. Miss AB. Cinio ysblennydd AB yng Nghaerdydd. Gadawodd gyntaf pan aeth ei gŵr i Huddersfield. Yr ail dro - dim pensiwn felly i weithio i lywodraeth leol.Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain