English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl cyfeirnod y cyfweliad

VSE028 Marion Blanche Jones, Hoover, Merthyr;Teddington Aircraft, Merthyr;Birmingham Small Arms, Dowlais;AB Metals, Abercynon;Kayser Bondor, Merthyr

Gadawodd Marion yr ysgol tua16 oed (1951) a dechreuodd yn Kayser Bondor - tan 1958. Teimla iddi gael ei gyrru o un man i’r llall yno, felly gadawodd. Gan nad oedd ganddi swydd barhaol yno roedd yn anodd ennill arian da. Canu a chwifio i’r hoff ganeuon. Symudodd i AB Metals - yn gwneud tiwnwyr teledu. Cafodd ei diswyddo ar ol 2-3 years - caeodd yr uned deledu. Yn Kayser Bondor deuai adre’n crio am nad oedd yn ennill llawer. Roedd wrth ei bodd yn AB Metals. Rhoddai ei holl bae i’w mam nes iddi farw (1960). Yn nesaf bu yn BSA yn gwneud darnau o ynnau - caeodd o fewn blwyddyn. Yna yn Teddington’s yn gwneud darnau ar gyfer awyrennau. Glanhau coiliau dan chwyddwydr. Yna aeth i Hoover’s yn 1963. £10 yr wythnos a bonysau bob wythnos, mis a Nadolig. Yna dechreuodd mater cydraddoldeb. Roedd hi’n aelod o undeb ac yn 'shop steward.' Gweithiai ar y bagiau gwaredu newydd. Wedi pasio Deddf Tâl Cyfartal,1970 - aeth y dynion yn chwerw. Gwyddai’r menywod bod merched Ford’s (Dagenham) yn cael tâl cyfartal. Cysyllton nhw ag Ann Clwyd am gyngor. Aethant ar y rheolwyr ond dwedodd y 'convenor' nad oedden nhw’n gwneud yr un gwaith â’r dynion. Y dynion ar streic ond bu'n rhaid ildio. - drwg deimlad am flynyddoedd. Nid brwydr yn erbyn y cwmni ond yn erbyn yr undeb. Disgrifia newid yn y peiriannau. Tua 7000 o gyflogeion yn nhair ffatri Merthyr. Hoover yn cydnabod gwasanaeth 5,10,15,20 and 25 mlynedd - mwclis. Disgowntiau da i staff. Blynyddoedd o draul ar ei chorff. Swnllyd ac iawndal. Digwyddiadau gan yr adrannau gwahanol - ond newid pan gymerodd cwmnïau eraill drosodd. Gadawodd yn 1992 ar ôl 29 mlynedd.
Marion Jones (ar y chwith) a chydweithwraig yn Hoover, 1960au cynnarBarbara Vaughan yn y gwaith yn Hoover, 1960au cynnar

VSW028 Patricia Lewis, Morris Motors (British Leyland), Llanelli

Gadawodd Patricia yr ysgol yn 15 oed (1956) a bu’n gweithio mewn siopau, yna priodi a chael plant, cyn dechrau yn British Leyland (1968). Roedd yn cael 14/6 am wneud cant o 'silencers' (distawyddion) mewn diwrnod. Gwaith peryglus - ffrwydrodd ei gwn a llewygodd. Bu’n weldio seddau hefyd. Help ei rhieni gyda’r plant. Yna cafodd ei hanfon i ffatri yn Dafen i weithio ar wresogyddion ceir. Cafod anaf yn ei chefn a gadawodd. Doedd ei chyd-weithwraig ddim yn tynnu’i phwysau. Gwisgo menig a gorfod talu amdanynt. Y cwmni yn darparu’r ffedogau a’r sbats am eu traed. Ffatri swnllyd iawn - rhai wedi cael iawndal am hyn. Cododd y cyflog ond roedd yn rhaid gwneud 480 distawydd y dydd. Ambell oruchwylwraig wael. Wedi cyrraedd y targed mynd i’r ystafell gotiau - dweud ffortiwn, partïon, trin gwallt. Disgownt ar brynu car (c.£2000) Undeb - wedi mynd yn rhemp - gormod o streiciau. Iaith anweddus yno - addysg iddi. Roedd yn bosibl prynu unrhyw beth yn y ffatri - 'sidelines'. Nyrs yno a rodyn metel yn mynd i fron Pat. Annhegwch wrth ddosbarthu gwaith. Nosweithiau cymdeithasol gwych yn y clwb. Gadawodd yn 1984. Teimla’n falch fod safon ei gwaith yno’n uchel.

VN029 Gaynor Hughes, Courtaulds, Y Fflint

Roedd Gaynor yn Courtaulds am 4 blynedd ac roedd hi'n gweithio ar y 'coning' yr holl amser. Cafodd hi gyfweliad ond ni all hi ei gofio ac ni all hi gofio ei diwrnod cyntaf, er bod y ffatri yn llawer mwy na'r felin bapur lle y bu hi'n gweithio cyn hynny, yn syth o'r ysgol. Yn Courtaulds, roedd tair ffatri - Glannau Dyfrdwy, Castell ac Aber; Aber oedd yr un fwyaf dymunol ac roedd hi'n yn honno. Doedd hi ddim wedi gwneud y math hwnnw o waith cyn hynny ac roedd ganddi ychydig o ddyddiau o hyfforddiant pan ddechreuodd hi. Dysgodd hi'r gwaith yn gyflym iawn ac roedd wrth ei bodd yno, oherwydd ei fod yn rhywbeth y mae hi wedi ei gyflawni, gan gadw ei phen hi o'r gwaith i fyny a chadw'r conau yn mynd. Roedd ganddynt beiriant yr un ac bu'n gweithio mewn tîm gyda dwy arall a oedd yn hŷn na hi ac wedi dechrau o'i blaen hi. Dechreuodd Gaynor ar beiriannau gosod conau normal ac, achos ei bod hi'n gyflym, cafodd ei symud i fod ar y gwlân. Gadawodd hi yn 20 oed a phriododd yn fuan ar ôl hynny. Dychwelodd hi i waith ffatri yn nes ymlaen ond nid i Courtaulds. Yn 1970, ymddangosodd yn ffotograff swyddogol y ffatri a oedd yng nghylchgrawn Courtaulds.
Gaynor ar y peiriant, 1970au, ©CourtauldsGaynor ar y peiriant, 1970auGaynor, ar y dde, gyda chydweithwyr tu fas i'r ffatri 1970au

VSE029 Patricia Howard, Harwin's Electronics Factory, Treorci;Ffatri fatris Ray-O-Vac, Treorci;Winchester Sausage Factory, Treorci;Sobells, Aberdâr;EMI, Treorci;Polikoff's, Treorci

Gweithiodd tad Patricia yn löwr am 51 mlynedd. Gadawodd hi’r ysgol yn 15oed (1958) a dechrau yn Polikoff’s ond roedd yn casáu gwnïo. Ar ôl wythnos (dychwelodd yno’n ddiweddarach) aeth Sobell’s . Cloch yn rheoli ei bywyd. Gwneud setiau teledu - rhoi gwydr ffibr ar lewys, yna sodro. Gwelai’r cantîn yn lle ofnus. Ysmygu wrth eu gwaith. Mae gwaith ffatri yn gofyn am hunanddisgyblaeth. Menywod oedd ar y beltiau cynhyrchu. Arhosodd 2 flynedd ac yna i EMI - gweithio gyda nodwydd a weiren aur. Dim beltiau cynhyrchu. Streic oherwydd oerfel. Cael bonws oherwydd y Beatles. Gwneud darnau i chwaraewyr recordiau. Nosweithiau allan yn y Shack, cerddoriaeth fyw. Wedyn aeth hi a’i chwaer i Winchester. Ond dychwelon nhw’n ar ôl 2 flynedd i ffatri Ray-o-vacs. Gwaith brwnt oherwydd y carbon. Gwneud batris. Yna’n feichiog a dychwelodd ar ôl 2 flynedd i EMI (yr un cwmni). Roedd yn 21 oed nawr. Bu’n byw ar arian poced tan ei bod yn 29. Arhosodd yn EMI am 9 mlynedd. Cafodd ei hatal o’i gwaith - hwyl Nadolig, ond aeth y ffatri ar streic a chafodd ei gwaith yn ôl. Clwb cymdeithasol EMI. Tynnu coes hwyliog. Yn ddiweddarach bu’n Harwin’s am 11 mlynedd. Diswyddwyd hi’n 53 oed (1996). Roedd y gwaith yn Harwin’s yn fân iawn - sodro eto. Dim undeb ond cael eu trin yn dda. Mae’n dal i weithio ym maes gofal yn 71 oed. Pan oedd yn EMI bu’n chwarae pêl-droed yn erbyn Polikoff’s -ar gyfer Cronfa Trychineb y Cambrian (1965). Enillon nhw - cryn stŵr.

VSW029 Di-enw, Ffatri 'powder puff' Revlon, Pontardawe;Ffatri gwneud beltiau, Ynysmeudwy

Gadawodd y siaradwaig yr ysgol am nad oedd ei thad yn iach ac aeth i weithio i’r ffatri feltiau. O fewn blwyddyn roedd hi’n oruchwylwraig. Gallai ddod â gwaith adre i ennill mwy o arian. Dydy hi ddim yn teimlo eu bod nhw’n cael eu trin yn dda - roedd yn rhaid gweithio’n galed. Roedd gwynt y gliw yn gryf iawn. Caeodd y ffatri ar ôl 2½ mlynedd a symudodd i Revlon lle gweithiodd am 2½ mlynedd arall. Gadawodd pan oedd yn feichiog.

VN030 Iorwerth Davies, Cookes Explosives, Penrhyndeudraeth

Bu Iorwerth yn gweithio yn Cookes Explosives am 46 o flynyddoedd, gan ddechrau yn 14 oed. Ni chafodd gyfweliad, aeth o i lawr i ofyn am swydd. Y pryd hwnnw, roedd y Blaid Lafur newydd ddod i'r brig a dechreuodd rheol newydd fod gweithwyr ifanc yn gorfod gorffen eu gwaith hanner awr cyn y gweithwyr hŷn, felly roedd Iorwerth yn gallu gadael y gwaith am 4.30. Roedd llawer o weithwyr ifanc yn Cookes achos ai llawer o bobl y pentref yno ar ôl gorffen yn yr ysgol. Roedd y bechgyn yn gorfod cyrraedd 16 a'r merched 18 oed i weithio efo'r ffrwydron. Gwnaeth Iorwerth nifer o swyddi yn Cookes yn ystod y 42 o flynyddoedd roedd o yno, gan ddechrau efo'r bagiau - 'paper shells' - yr oedd y ffrwydron yn mynd i mewn iddynt. Wedyn roedd y bagiau yma yn mynd i'r merched yn y lle pacio i gael eu llenwi efo ffrwydron. Ar ôl 16 oed, roedd o'n gweithio yn y cytiau efo merched a dynion eraill, dim efo'r ffrwydron eu hunain ond efo'r bagiau. Roedd dynion hefyd fel 'service waiters' yn mynd â bagiau rownd i bob cwt ac yn eu casglu nhw ar ôl iddynt gael eu llenwi. Symudodd i swyddi eraill yn ystod ei amser yno, gan orffen fel rheolwr cludiant, yn gofalu am gludo'r ffrwydron i ffwrdd i byllau glo - swydd gyfrifol iawn, achos roedd yn rhaid iddo eu gwneud nhw'n ddiogel trwy eu dad-ffiwsio nhw yn aml. Priododd un o ferched y cytiau, Mary

VSE030 Maureen Williams, Kayser Bondor, Merthyr

Gadawodd Maureen yr ysgol ramadeg yn 15 oed (1950) a mynd i’r coleg technegol, yna i weithio i fasnachwr glo a chafodd brofiad helaeth o waith yno. Symudodd i adran gyflogau Kayser Bondor a hyfforddi i ddefnyddio 'comptometer'. Talu merched ar waith ar dasg. Cadw manylion pob un ar gerdyn. Tua 1,000 o gyflogeion ac roedd hi’n gyfrifol am gofnodion 200 yr wythnos. Defnyddio System Kalamazoo. Gweithiodd yno am 9 mlynedd a bu yn yr adran gyfrifon hefyd, ac yna’n oruchwylwraig. Symudodd y cynhyrchu i Ddowlais – bu yno am 1 flwyddyn cyn mynd yn feichiog. Câi cyflogau staff eu cadw’n gyfrinachol. Byddai eitemau 'Not Quite Perfect' a gwastraff yn cael eu gwerthu yn siop y ffatri. Roedd dillad isaf y ffatri yn fendigedig. Hi oedd yn cadw cyfrifon y siop hefyd. Casglent docynnau oddi wrth y merched ar lawr y ffatri - cerdyn cofnod personol. Gwnïo dillad duon yn cael eu prisio yn uchel. Câi’r clerc fonws am weinyddu ffioedd yr undeb. Roedd cyfleusterau ar wahân yn y cantîn a’r toiledau i’r goruchwylwyr. Talu ar ddydd Gwener a gweithio’n hwyr ar nos Iau. Dawnsfeydd - rhwng ffatrïoedd. Gweithiodd am fis yn Hoover’s - llawer mwy strict yn yr adran gyflogau. Naw mlynedd yn ddiweddarach, tua 1969, aeth i TBS - doedd dim cyfrifianellau yno! Bu yno am 25 mlynedd. Gwnâi’r costio, y cyflogau a’r cyfrifon.

VSW030 Di-enw, Berleis, Pontardawe;Anglo-Celtic Watch Co. Ltd. (inc. Smith's Industries ac Ingersoll aka 'Tic Toc'), Ystradgynlais;Economics, Pontardawe

Disgrifia y siaradwraig ei magwraeth. Gadawodd yr ysgol i weithio yn Woolworths’ cyn symud i ffatri Tic Toc (c. 1958), lle'r oedd yn ennill ‘lot o arian’. Gadawodd pan oedd yn feichiog (c. 1965). Pan oedd y plant yn fach dechreuodd yn ffatri Economics yn gwneud drymiau i waith y Mond (c.1970-1). Roedd hwn yn waith budr dan amodau swnllyd a gwael. Symudodd i weithio yng nghantîn Berlei’s (c.1971-81) a daeth yn rheolwraig yno. Disgrifia brynu bras am chwe cheiniog, amseru mynd i’r toiledau, ‘talwyr da’, undebaeth, cerddoriaeth, a thrip ar y trên i Lundain gyda ffatri Merthyr. Pan gaeodd y ffatri aeth yn ôl i Tic Toc (gwaith Rover) (1983-90). Daeth yn oruchwylwraig yno a gwnaeth radd mewn rheoli busnes.

VN031 Eddie and Sharon Parry, Courtaulds, Y Fflint

Fel llawer o ffatrioedd, roedd gan Courtaulds dîm pêl-droed menywod. Mae'r llun hwn yn dyddio o tua 1969. Mae wedi'i roi gan Eddie Parry, roedd ei wraig Sharon yn gweithio yn y ffatri, ond nid yw yn y llun.
Tîm pel droed menywod ffatri Courtaulds, 1968-9

VSE031 Maureen Howard Boiarde, Polikoff's, Treorci;Sobell's TV and Radio, Rhigos'

Gadawodd Maureen yr ysgol yn 15oed (1962) a dechrau yn Polikoff’s. Dywed stori am ei mam ar ei diwrnod cyntaf yn bygwth y byddai yn cael ei throi allan petai’n colli ei swydd. Sŵn - yr haearnau enfawr a’r 'presses'. Roedd e’n rhyfeddol. Roedd adran y dynion braidd yn ddi-liw. Disgrifia dorri trwch 2 droedfedd o ddefnydd yn fanwl gywir ar yr un pryd. Rhywiaeth - menywod yn gwneud y gwaith undonog. Bu’n gweithio fel ‘floater’ - cyflog uwch ond ni allai ennill bonws. Cost siswrn yn dod allan o’i chyflog. Gorfod rhoi ei holl bae i’w mam gweithio tuag at dalu llety a bwyd yn unig. Pan orffennodd yn Polikoff’s roedd yn gwnïo â llaw. Gweithio dros amser. Roedd dynion bob amser yn ennill mwy. Llawer o dynnu coes rhywiol - y dynion yn pinsio penolau ond y menywod yn talu’n ôl. ‘Bull week’ - Nadolig a chyn gwyliau blynyddol - ennill bonysau ychwanegol. Gallai wneud ffrog am 30c. Nodwydd trwy ei bys sawl gwaith - defod bywyd. Cadwai bad ger ei pheiriant i sychu’r gwaed. Bu’n gwnïo dillad i’r fyddin hefyd. Byddent yn ysgythru enwau ar eu sisyrnau. Gwrando ar y radio dair gwaith yr wythnos. Bu’n rhaid iddi adael a mynd i Lundain gyda’i mam tua1963. Dychwelodd yn fuan i Sobell’s - gweithiodd yno am 1 flwyddyn. Roedd pobl Aberdâr yn ddieithr iddynt. Byddai gweithwyr Polikoff's yn trefnu llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol. Chwaraeodd tîm pêl-droed y menywod yn erbyn EMI. Dysgodd gwaith ffatri iddi fod yn annibynnol a rhoddodd stamina iddi.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain

Administration