English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl cyfeirnod y cyfweliad

VSW021 Maureen Jones, ROF Pembre, Sir Gaerfyrddin

Gadawodd Maureen yr ysgol ramadeg yn 15½ oed (c.1948) a dechreuodd weithio fel ‘learner tracer’ yn ROF Pen-bre, mewn swyddfa yn llawn dynion (1950-54). Ei gwaith oedd dargopïo lluniau’r dynion mewn inc. Roedd clwb cymdeithasol yno ac roedd hi’n chwarae badminton dros y ffatri. Dysgu smygu yno gyda’r merched eraill. Roedd prentisiaid yn ei swyddfa a byddai’n dysgu dawnsio gyda nhw. Dim cyfle i ferch fod yn brentis. Yna bu yn y swyddfa yng Nghynheidre, cafodd blentyn ac yna aeth i Thyssen’s (1973-1993) yn gwneud y lluniau yn ogystal â’u dargopïo). Roedd rhai o swyddi’r dynion yn yr ROF yn beryglus - rheolau strict iawn am fatsis a sigarennau. Llawer o sgwrsio am rygbi yn y swyddfa.

VN022 Megan Owen, Compactau James Kaylor, Caernarfon

Roedd Megan yn y ffatri gompactau am ugain mlynedd, gan ddechrau yno yn 15 oed. Doedd hi ddim wedi gadael yr ysgol yn swyddogol ond roedd ffrind ganddi, roedd wedi pasio’r ysgoloriaeth ac yn cael mynd i ysgol ramadeg, ond doedd hi ddim eisiau mynd, a dywedodd honno wrth Megan ei bod hi'n mynd i drio am swydd yn y ffatri compactau. Aeth y ddwy ohonynt i lawr i ofyn am swydd a llwyddon nhw, a chafodd Megan 'row' gan ei mam wedyn. Ar ei diwrnod cyntaf, roedden nhw wedi mynd yno "fel plant bach, socs bach gwyn a' ponytails', fath yn union â plant ysgol, ac yn giglan gwirion a ddim y gwbod be' i ddisgwyl." Roedden nhw'n rhoi’r rhai ifanc mewn ystafell efo'i gilydd lle roedden nhw'n rhoi’r pethau bach crwn yng nghanol y compactau i ddal y powdwr, a rhoi'r 'satin' o’i gwmpas o. Wedyn, roedd Megan yn dysgu gwaith arall, gweithio yn yr adran brintio am y rhan fwyaf o'r amser, yn rhoi'r patrwm ar y compactau mewn paent. Gadawodd hi am 12 mlynedd i fagu'i merch, ac yna dychwelyd tan i'r ffatri gau, tua 1984.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
Darllenwch gyfieithiad Saesneg o'r clip sain hwn
Compact James Kaylor, 1950auCompact James Kaylor, 1940auCompactau James Kaylor, yr un â llythrennau o'r 1940au, yr un plaen o'r 1950au a'r un efo blodau o'r 1960auMegan yn cael tro ar y peiriant sgleinio, 1950au, © Dafydd Llewelyn

VSE022 Margaret Anne Amblin (nee Williams), Thorns, Merthyr;Kayser Bondor, Merthyr

Gadawodd Anne yr ysgol yn 16 oed (1957) ac aeth yn syth i Kayser Bondor - yn gwneud dillad isaf. Roedd ysgol hyfforddi yno - dysgu gweithio’r peiriannau a’u glanhau. Lle pert i weithio ynddo. Ei pheiriant ei hun - agorai’r bwndel a thynnu’r tocyn, gwnïo ac yna ail-glymu’r bwndel. Gwaith ar dasg. Gweithiodd yno nes geni’i mab cyntaf 1966. Aeth yn rhan amser yn ddiweddarach. Roedd M&S yn mynnu safon. Glân iawn. Byddai’r merched yn gwneud sioeau ffasiwn - o’r dillad isaf. Prynu dillad ar gerdyn yn siopau Merthyr. Byddai’r goruchwylwragedd a’r rheolwyr yn eu gwylio. Canu - roc a rôl a jeifio. Un 'machinist' gwrywaidd - tynnu ei goes. Bywyd cymdeithasol - dawnsfeydd. Mae’n sôn am offer newydd yn y cartref. Doedd ei hewyrth ddim yn fodlon i’w wraig ddefnyddio’r peiriant golchi hebddo fe. Digwyddiadau rhyng-ffatri ym Merthyr. Aeth ar ei thrip cyntaf dramor i’r Eidal gyda ffrindiau tua 1958-9. Yn ystod ei hyfforddiant byddent yn mynd allan i wneud ymarferion cadw’n heini. Y ffatri yn symud i Ddowlais. Gadawodd yno tua 1968/9. Pan oedd y plant yn hŷn aeth i ffatri Thorn’s - shifft gyda’r nos, yn gwneud bylbiau golau. Llwytho bylbiau i dyllau yn y felt gynhyrchu. Bu’n gweithio yno hefyd ar shift ran amser yn y dydd.

VSW022 Di-enw, Slimma-Dewhirst, Wdig

Gadawodd y siaradwraig yr ysgol yn 16 oed (1978) a dechrau yn Slimma’s - roedd y rheolwr wedi ymweld â’i hysgol a chynnig swydd yn gwnïo iddi. Dechreuodd gyda thacio bar, ymlaen i droi dillad ac yna i’r peiriant gwneud dolenni. Roedd e’n anodd. Roedd y ffatri yn swnllyd a phoeth. Caent ddisgownt o 50% ar drowseri, esgidiau a chardiganau yn siop y ffatri. Câi help i gyrraedd targedi. Bu diffyg cydymdeimlad pan roedd angen gadael am gyfnod. Teimlai’n falch ei bod yn gwneud dillad i M&S. Collodd ewin mewn peiriant - iawndal. Iechyd a Diogelwch - dim bagiau ar y llawr na chotiau ar gefn cadeiriau. Ni chaent siarad - byddai’n effeithio ar y targedau. Cafodd fwgwd i’w wisgo oherwydd y llwch. Byddai’n chwythu a sgleinio ei pheiriant. Diswyddo pan gaeodd y ffatri (2002) - cafodd sioc ac nid yw wedi gweithio ers hynny. Cafodd wats am 20 mlynedd o wasanaeth.

VN023 Kathy Smith, Hotpoint, Llandudno

Roedd Kathy yn adran bersonél Hotpoint o'r dechrau yn 1947 ac, ar wahân i egwyl o 15 mlynedd pan oedd hi'n edrych ar ôl ei theulu neu'n gweithio ar longau, gan gynnwys y Queen Elizabeth, arhosodd yno nes ei diswyddo'n wirfoddol yn 1991, pan oedd yn 62 oed. Roedd hi wedi mwynhau gweithio yn y ffatri, yn nabod pawb , ac yn disgrifio'r lle bron fel teulu. Dywedodd ei fod yn lle 'aruthrol' i weithio, er ei bod yn cyfaddef nad oedd hi'n gorfod dioddef undonedd y llinell gynhyrchu. Yn ei swydd, roedd rhywbeth gwahanol bob dydd ac roedd yn gyffrous, doedd hi byth yn gwybod beth y byddai'n ei wynebu nesaf, ac roedd pobl yn arfer dod ati hi gyda phob math o broblemau. Gwnaeth amrywiaeth o dasgau yn sgil ei rôl fel swyddog personél, gan gynnwys amser ar y llinell gynhyrchu i geisio deall sut y gallai gweithwyr wneud diwrnod gwaith mor undonog ddydd ar ôl dydd.
Tu mewn i Ffatri Hotpoint, c.1980, © HotpointPwyllgor Adloniant Hotpoint, c.1950Gweithwyr ar lawr ffatri Hotpoint, c.1980  © Hotpoint

VSE023 Frances Francis, Ffatri Sigarau JR Freeman, Caerdydd

Gweithiai mam Frances yn yr hen ffatri sigarau yn North Clive Street yn eu gwneud â llaw. Ar ôl gadael yr ysgol tua 15 oed gweithiodd Frances mewn siopau ac yna yn Ffatri newydd Freeman’s - yn eu gwneud gyda pheiriant. Roedd y gwynt yno’n afiach. Pan oedd yn hyfforddi torrodd y pres - rhoddon nhw e mewn cas gwydr. Ffatri fodern. Roedd y merched o’r cymoedd yn gwisgo rolyrs - ac yn cuddio sigarau ynddyn nhw! Tsiecio’n ddirybudd. Amseru mynd i’r toiled. Roedd sŵn torri’r sigarau yn echrydus. Yn ddiweddarach bu’n gweithio mewn siop am 30 mlynedd. Gwaith ar dasg. Ei rhif ffatri oedd 344. Mae ei holl slipiau pae ganddi. Gwyddai am y gystadleuaeth Miss Manikin. Roedd ei rhieni’n dlawd - stori’r esgidiau. Gallent archebu sigarennau a sigarau unwaith y mis e.e. 4 owns o Old Holborn. NId yw Frances wedi ysmygu erioed.

VSW023 Caroline Bowen, Slimma-Dewhirst, Wdig

Gadawodd Caroline yr ysgol yn 15oed (1983) a gweithiodd mewn sawl lle - yn garddio, yn rheoli gwestai ac ar y fferi cyn ateb hysbyseb Slimma (tua 1993). Teimlai fod y menywod yno yn gas a bod cliciau yn y ffatri. Gweithiai ar jîns ond câi anhawster i gwblhau ei chwota. Cafodd stŵr am hyn. Darparai ei siswrn drud ei hunan - £12 bob 4 wythnos. Aeth ei dwylo’n dost - roedd pawb yn rhwymo’u dwylo. Cafodd ei symud i wneud siorts boxer. Syrthiodd yn y ffatri a chollodd ei swydd. Dychwelodd i weithio yn y cantîn. Pennau tost ac afiechydon y frest ar lawr y ffatri. Roedd yn casáu’r gwaith. Hi oedd yr isaf o ran statws. Bydden nhw’n cynnal partïon babanod a rhoi rhubanau i ddynodi amser. Caent focs o siocledi’r Nadolig. Roedd hi’n rhy boeth neu’n rhy oer yno. Canent ar y cyd â Radio 2. Tair wythnos o wyliau blynyddol. Deuent ag hamperau i mewn i ddathlu’r Nadolig. Collodd sawl baban - effaith straen yn y ffatri? Roedd hi’n ‘uffern’ yno.

VN024 Margaret Jones, Ffatri teganau B.S.Bacon, Llanrwst

Roedd swydd gyntaf Margaret mewn cegin yng nghantîn yr ysgol, golchi llestri a helpu gyda'r cinio, y mae hi'n meddwl ei bod hi'n ennill tua 50c yr wythnos. Roedd hi yno am tua dwy flynedd. Aeth i'r ffatri deganau yn 1948 ar ôl mynd i lawr at y ffatri yn bersonol i ofyn am swydd. Rhaid ei bod wedi cael cyfweliad ond ni all gofio. Roedd yn hapus i gael swydd oherwydd roedd yn rhaid i chi gael swydd yn y dyddiau hynny, meddai. Mae hi'n meddwl ei bod hi'n gweithio o 08:00 tan17:00, ond nid ar benwythnosau. Roeddynt yn cael seibiannau ond nid oedd ffreutur. Ai'r gweithwyr i MacLean's Caffi mewn stryd gerllaw i brynu eu te a'u coffi a chael rhywbeth i fwyta. Roedd Margaret yn gweithio yn y ffatri deganau am ddeng mlynedd, o 1948 i 1958. Mae'n disgrifio'r ffatri fel lle cyfeillgar i weithio ynddo. Roedd hi'n adeiladu'r tai doliau yr holl amser roedd hi yno. Roedd yn rhaid canolbwyntio ar y gwaith, meddai, a dim chwarae o gwmpas, gan fod y bòs, Mr Bacon, yno o hyd yn ei swyddfa. Yn y diwedd, gadawodd hi am swydd efo cyflog gwell.
Ffatri Deganau B.S. Bacon, o Casglu'r Tlysau, gyda Margaret yn sefyll, 1952

VSE024 Irene Hughes, Kayser Bondor, Merthyr

Gadawodd Irene yr ysgol yn 16oed (1949) a dechreuodd yn Kayser Bondor ar Fawrth 9fed.Bu’n gweithio yn yr adran strapiau am 25 mlynedd ac yna ar y turn yn torri. Roedd yn bwydo dau beiriant ar yr un pryd. Yna cai’r strapiau eu torri ac yna aent at y bwclerwyr. Newidiwyd y rhain i strapiau rhuban wedyn. Byddai’n mynd â gwaith adre bob nos. ‘Chinese labour’! Roedd y rhai'n gwneud y dillad yn ennill mwy. Byddai’n rhoi ei holl arian i’w mam. Roedd siop yno yn gwerthu nwyddau NQP ('Not Quite Perfect'). Bu ar streic am dâl ac yn picedu - yn coginio dros dân coed y tu allan. Nodwyddau trwy ei llaw - ac i’r ysbyty, cafodd lawfeddygaeth i’w cael allan. Collodd dop ei bawd hefyd - ei bwytho nôl a chael £200 o iawndal. Collodd un ferch ei gwallt - moel. Yn y cantîn, chwaraeid yr un gerddoriaeth bob dydd: ‘Itsy bitsy’ ac ar y wal roedd slogan ‘Output is the main key to prosperity’! Cafodd tinnitus oherwydd y sŵn. Byddent yn ffraeo gyda’r dynion am beidio â thynnu’u pwysau. Caent hwyl am ben y bechgyn o’r fyddin yn dysgu gwnïo. Seiclo i’r gwaith. Gweithiodd yn Kayser Bondor ym Merthyr a Dowlais. Clybiau hoci a phêl-droed. Cyngherddau Nadolig hyfryd. Clybiau 10 a 21 mlynedd. Yn y clwb 21 mlynedd cafodd 21 gini a phrynodd wats aur Rotari. Cafodd wn-nos a negligé hefyd am beidio â cholli gwaith. Aduniad. Cafodd ei diswyddo yn 51 oed (1984).

VSW024 Di-enw, Slimma-Dewhirst, Wdig

Gadawodd y siaradwraig yr ysgol yn 15 oed (1970) ac aeth i Slimma’s Aberteifi, yn dilyn diwrnod agored yn yr ysgol. Cafodd brawf ar y peiriant gwnïo. Dechreuodd yn gwneud bandiau gwasg ac yna pocedi. Roedd yn rhaid cadw i fyny â’r llinell neu byddai’n effeithio ar dâl pawb. Roedd hi’n araf am ei bod yn llaw-chwith. Roedd yn waith blinedig ac undonog ond crefftus. Bu yno am 33 mlynedd. Roedd y dynion ar y pres yn cael mwy o dâl na’r merched. Yr undeb ac anghydfodau am amodau gwaith. Roedd defnyddio’r peiriant pwythau cloi a’r 'fire-threading' yn waith brwnt. Nid oeddech wedi cymhwyso ar y peiriant tan i chi gael nodwydd trwy’ch bys. Iechyd a Diogelwch. Cofnodi’r gwaith ar docynnau. Roedd ganddi drafferthion clyw a thynnai ei chymorth clyw allan ar lawr y ffatri. Mae ganddi ddisg sy’n dirywio oherwydd eistedd drwy’r dydd. Roedd y Nadolig yn hwyl fawr. Byddai pawb yn ymddwyn yn dda pan ddeuai ymwelwyr o M&S. Roedd yn drist iawn pan gafodd ei diswyddo – mae’n colli mynd i‘r gwaith.

Administration