VN042 Vera Jones, Courtaulds, Y Fflint
Gweithiodd Vera yn Courtaulds yn syth ar ôl gadael yr ysgol, yn 1941. Aeth i lawr i ofyn am swydd, o achos doedd dim byd arall roedd hi eisiau ei wneud ar y pryd, a doedd dim 'capabilities' ganddi i wneud dim byd arall. Mae'n cofio bod y nrys yn edrych ar ei gwallt am 'nits.' Roedd ei mam yn mynd â hi at arosfan y bws achos roedd hi'n dywyll yn y bore a dim ond 14 oed oedd hi. Wedyn oedd hi'n dal y bws efo gweithwyr eraill. Roedd rhaid iddynt wisgo ffrogiau du, roedden nhw wedi’u gwneud, neu roedd rhywun arall wedi’u gwneud allan o lenni du, ac roedd y dillad yn dangos pob darn o gotwm. Aeth Vera o'r 'cakewrapping' i mewn i'r swyddfa, ar ôl i'r cwmni ofyn iddi wneud y cyfrifon. Ond, gan fod y merched ar lawr y ffatri yn ennill mwy o arian trwy ennill bonws, aeth yn ôl i'r rhan gynhyrchu, yn gwneud y 'coning.' Roedd hi yno nes iddi briodi ym 1950 a gadawodd Courtaulds wedyn i gael babi. Dychwelodd i'r gwaith wedyn ac aeth i mewn i lywodraeth leol, yn casglu rhent ac yn adennill dyledion, lle bu tan iddi ymddeol yn 66 oed.