English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl enw'r cywelai

VSE011 Maisie Taylor, Horrock's, Caerdydd;Peggy Anne, Cardydd

Gweithiai mam Maisie yn Ffatri Curran’s adeg y rhyfel. Gadawodd Maisie yr ysgol yn 15 oed (1948/9) a dechreuodd yn Horrocks - gelwid yn Peggy Ann ar y pryd, yn gwneud dillad plant. Cymerodd Horrocks drosodd - yn gwneud dillad gwely a ffrogiau a.y.b. Roedd gan y cwmni ffatrïoedd eraill a cheid arwerthiannau o’u holl gynnyrch. Bu yno am 10 mlynedd. Disgrifia leoliad y ffatri. Byd gwahanol. Roedd y menywod yn gegog iawn. Aeth i siarad yn uchel oherwydd y sŵn yno. Gweithiai ar y fainc arbennig yn gwneud sawl tasg - yna ar yr 'overlocker', a daliodd ei bys yn y peiriant tyllau botymau. Roedd ei mislifoedd yn ei heffeithio - mynd i’r ystafell seibiant. Byddai hyn yn effeithio’r cynhyrchu ar y lein. Edrych ar ôl eu peiriannau. Roedd gwaith y fainc arbennig yn fwy medrus. Disgrifia’r prosesau. Yr oerfel a phlygu dros y peiriant wedi effeithio ar ei chefn. Parti Nadolig i’r plant - dewis anrhegion. Gwaith ar dasg - dal yn ôl pan oedd yn cael ei hamseru e.e. gwneud un ffrog mewn 4 munud yn werth 50c. Gwnïo ac altro dillad gartref i ychwanegu at ei hincwm. Y goruchwylwragedd ‘fel mamau’ iddynt. Torrai cerddoriaeth ar yr undonedd. Stori am weithio’n hwyr a mynd adre mewn niwl heb olau. Mynd allan yn y Barri a Chaerdydd. Sôn am Irene Spetti (enw llwyfan - Lorne Lesley yn y ffatri, priododd David Dickinson) a Rose Roberts - dwy gantores gabaret dalentog a weithiai yn Horrocks. Adrodd stori am ei goruchwylwraig (Miss Grünfeldt) yn cynnig gwneud ei gwisg briodas iddi yn y ffatri. Mae’r wisg ganddi o hyd. Gadawodd am ei bod yn feichiog (1959). Gweithiodd mewn caffes a.y.b. wedyn. Y ffatri oedd ‘amser gorau ei bywyd’.

VSE046 Betty Thomas, Louis Edwards, Maesteg

Gadawodd Betty yr ysgol ramadeg yn 17 oed (1965) a dechreuodd yn y swyddfa yn Louis Edwards, fel clerc deleffonydd a hefyd ar y 'comptomete'r yn gwneud cyflogau. Casglu tocynnau o lawr y ffatri. Câi’r 'machinists' fwy o dâl na staff y swyddfa oherwydd gwaith wrth dasg a bonysau. Arhosodd yno am 3 mlynedd. Sonia am y 'monkey parade' a chwrdd â bechgyn. Noda fod y rheolwyr yn ‘estron’. Gadawodd pan gafodd blant. Ers hynny mae wedi gweithio mewn siopau a.y.b. Pan briododd hi casglodd y ffatri arian a rhoi anrheg briodas enfawr iddi - popeth posibl mewn Pyrex.

VSW066 Enid Thomas, Fisher & Ludlow, Llanelli

Gadawodd Enid yr ysgol ramadeg yn 17 oed (1954) ac aeth i hyfforddi’n nyrsio. Aeth i weithio yn un o nyrsys Fisher a Ludlow yn 1980. Mân anafiadau fel cytiau neu bethau yn mynd i’r llygaid oedd yno’n bennaf. Doctor yn galw unwaith yr wythnos i asesu a oedd gweithwyr yn ffit i ddychwelyd i’r gwaith. Roedd ganddi ystafell fawr ac ystafelloedd bach ohoni. Gwisgai iwnifform chwaer mewn ysbyty. Gweithiai o 6-10 o’r gloch gyda’r nos. Nyrs gwrywaidd yn gweithio’r shifft nos. Anafiadau eraill: llosgi, troi pigwrn, anafu arddwrn wrth godi llwyth rhy drwm. Os angen pwythau - i’r ysbyty. Bu yno tua12 mlynedd. Ffeil ar gyfer pob gweithiwr. Nabod y 'shirkers' ond rhai o’r 'foremen' yn disgwyl gormod yn enwedig gan y menywod.

VSE040 Isabel Thomas, Gwaith Tin Mansel, Aberafan;Gwaith Aliwminiwm Wern, Aberafan;Metal Box, Castell Nedd

Gadawodd Isabel yr ysgol yn 14oed (1942) ac aeth i weithio i waith Tunplat Mansel (roedd yn amddifad). Roedd ei chwaer yn gweithio yno a dwedodd wrth y rheolwr fod Isabel yn 16 oed. Dysgodd dasgau gwahanol: ar y sheers a'r gilotîn. Twyllodd ynglŷn â’i hoedran eto i fynd i’r Wern. Disgrifia dorri’r tunplat a gweithiai’r menywod y rholer yno hefyd. Yna ai i mewn i ddŵr a byddai’n rhaid ei sythu eto. Gwisgai ddyngarîs â chlytiau. Torri ei bysedd. Lladdwyd menyw yn y gwaith alwminiwm. Roedd Isabel yn gorweithio. Gwaith shifft yn y Wern. Lladdwyd bachgen yn y Mansel hefyd - syrthiodd shîts arno. Yn y Wern roedd yr alwminiwm yn dod allan o’r baddon hallt yn boeth. Gwisgent fenig trwchus. Aelod o undeb. Dysgu rhegi. Stori am roi carthydd i’r fforman. Disgrifia’i gwaith yn y Wern. Crafu alwminiwm - hanner awr yn gweithio, hanner awr i ffwrdd yn yr ystafell dawel. Gwnaeth ei chwaer fat rhacs o got un o’r gweithwyr! Canu gyda’r piano yn y cantîn. Daeth y dynion adre o’r rhyfel a mynd â swyddi’r merched a chael gwell tâl. Dawnsfeydd a cherddoriaeth. Ni châi fynd i Fargam adeg y rhyfel oherwydd yr Americanwyr yno. Noda’r hiliaeth. Arhosodd yn y Wern 5 mlynedd - torron nhw’i chyflog a symudodd i’r cantîn. Bu yn y Mansel am ddwy flynedd. Gweithiodd yn Metal Box am dri mis c. 1952, yn gwneud topiau tuniau tomatos - swydd hawdd.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
Chwaer Isabel Thomas, Marian Bagshaw (ar y dde) a'i ffrind Sylvia yn gweithio yng ngwaith Aliwminiwm Y WernNith Isabel Thomas, Betty (ar y chwith)  a'i ffrind yng ngwaith Tun Mansel, Aberafan

VSW010 Phyllis Eldrige & Olga Thomas, Cardwells, Llanbedr Pont Steffan;Cardwells, Machynlleth

Gadawodd Phyllis yr ysgol yn 16 (c.1959) ac arhosodd gartre ar y fferm am 3 blynedd cyn gweld hysbyseb yn y papur am 'machinist' yn Cardwells' .Bws yn mynd â nhw i Fachynlleth. Lodgins yno. Gadawodd Olga yn 15 oed (1959), bu mewn ffatri pacio wyau yna i Cardwells' Machynlleth. Teithio ar y trên hefyd. £4 yr wythnos + lodgins + teithio. Yno am flwyddyn yn aros i ffatri Llambed gael ei gorffen. Ffatri Llambed ar gau am wythnosau yn 1963 achos yr eira - dim tal. Merched o'r pentrefi o gwmpas. Ffrogiau menywod roedden nhw'n eu gwneud fwyaf. Dim cofio undeb - 'grin and bear it'. Cael yr 'off-cuts'. Nodwydd trwy'r bys. Gwaith 'skilled' V smwddio. Cymraeg oedd yr iaith fwya. Gadael pan oedden nhw'n disgwyl babi. Phyllis wedi prynu peiriant a gwnïo gartre. Boddhad o weld dilledyn roedden nhw wedi'i wneud am rywun.

VN034 Merfyn Tomos, Elephant Chemicals, Y Bermo

Gadawodd Merfyn yr ysgol yn 18 oed yn 1969 gyda'r bwriad o wneud gradd yn y coleg a dilyn gyrfa mewn llyfrgellyddiaeth. Roedd o wrth ei fodd yn darllen llyfrau ac roedd gynno fo ewythr a oedd yn llyfrgellydd ac yn ddylanwad mawr arno. Ar ôl gadael yr ysgol roedd o eisiau swydd hâf er mwyn ennill tipyn o bres poced. Roedd ffrind wedi cael lle yn ffatri Elephant Chemicals yn y Bermo felly cysylltodd Merfyn â nhw a chafodd o swydd fel 'casual'. Dydy o ddim yn cofio cyfweliad ffurfiol ond mae'n cofio'r olwg gyntaf ar y lle - peiriannau a waliau brics efo sglein arnyn nhw, yn edrych fel rhyw warws, gyda merched efo ffedogau a chotiau a rhai efo sgarffiau ar eu pennau. Merched oedd y rhan fwyaf o'r gweithwyr ond roedd nifer fach o ddynion yn gwneud pethau fel trwsio peiriannau, yn ogystal â bechgyn i lenwi'r loris efo'r deunydd a oedd yn cael ei anfon i ffwrdd. Roedd tipyn o dynnu coes yno gan fod llawer o'r gweithwyr yn ifanc er mai lle bach iawn oedd o, gydag ugain neu bump ar hugain o weithwyr. Hen adeilad wedi'i addasu oedd y ffatri, mae'n debyg. Roedd y ffatri yn gwneud cemegau ac roedd y gwaith yn delio efo pethau fel 'disinfectant' a blociau toiled. Mae Merfyn yn cofio llawer o gyfeillgarwch yno rhwng y gweithwyr ifanc ac mae'n dal mewn cysylltiad efo un neu ddau ohonyn nhw. Aeth o ymlaen i'r coleg i wneud llyfrgellyddiaeth

VSW049 Monica Walters, Smiths Crisps, Fforestfach

Gadawodd Monica yr ysgol yn 15oed (1952) ac aeth i weithio yn Woolworth’s ond o fewn misoedd roedd yn Smith's Crisps. Ar y dechrau roedd yn stampio rhifau ar duniau creision a’u stacio ar gyfer y lorïau. Yna symudodd i’r adran focsio. Yna cawson nhw beiriant a byddai hi’n tynnu tuniau oddi ar y rholeri, rhoi pecynnau oddi ar y treis a rhoi caeadau arnynt. Roedd codi cymaint o becynnau creision yn gwisgo’i bysedd. Byddai nyrs yn archwilio’u bysedd bob bore. Roedd yn rhaid gwneud 800 tun y dydd i gael eich cyflog + bonws am bob cant dros hyn. I fyny’r grisiau gwnaent y creision - gwynt ofnadwy. Prysur iawn yn yr haf, yr amser yn llusgo yn y gaeaf. Gwisgai ffedog fawr drwchus ar gyfer bocsio. Bonws a chinio Nadolig. Darperid twrbanau. Câi’r tuniau eu rhifo. Byddai cerddoriaeth yn chwarae a rhai gweithwyr yn jeifio. Gadawodd pan briododd tua 1957 - doedd ei gŵr ddim yn cymeradwyo’r job. Pryfocio’r gyrwyr. Trip blynyddol. Cafodd gloc taro Westminster ganddynt pan briododd.

VSW058 Patricia Prudence White, Ffatri ddillad RSW, Cwmbran;Ffatri Lotery, Casnewydd

Gadawodd Patricia yr ysgol yn 15 oed (c.1951) ac er gobeithio mynd i’r brifysgol roedd angen prentisiaeth ar ei brawd yn lle. Disgrifia sut y cafodd ei mam ei thrin yn annheg yn Redifusion. Roedd stigma mewn gwaith ffatri ond y cyflog yn dda. Roedd Lotery’s yn teilwra iwnifformau. Dilynodd ddosbarth nos mewn gwneud ffrogiau a chynllunio ar yr un pryd. Byddai’n ysgrifennu operas a gwneud croeseiriau i lenwi’i meddwl. Roedd gweithio’r peiriant 'overlocker' yn undonog. Pobl yno o gefndiroedd a galluoedd gwahanol. Darllen gwefusau’n wych a dim cyfrinachau. Cystadleuaeth o ran cynhyrchu rhwng ysmygwyr a rhai ddim yn smygu. Cymhlethdod y system gwaith ar dasg - llawer i’w ddysgu. Strategaethau amser a symud. Symudiadau cynnil yn gwneud y gwaith yn fwy effeithiol. Herio’r rheolwr trwy ganu. Perthynas yr undeb a’r rheolwyr yn wael. Ar ôl cyfnod yn gyrru bws mini, cafodd gynnig swydd yn RSW. Manylion gyrfa: Lotery’s tua 7-8 mlynedd (tua1951-8), tua 6 mis yn Western Biscuits; dychwelyd i Lotery’s (tua.1960-4/5) fel 'machinist' yna hyfforddwraig. Gweithiodd i RSW 1974-78.
Ffrind Patricia White, Jackie,  wrth ei gwaith yn Lotery's, Casnewydd, c.1971

VSW031 Annest Wiliam, Hodges, Fforestfach;Mettoys, Fforestfach

Tua 1954-55 bu Annest yn gweithio yn ffatrïoedd Mettoys a Hodges dros wyliau’r haf. Gweithiai ar y llinell gynhyrchu yn gwneud teganau metel ac roedd yn rhaid iddi wisgo menig lledr. Roedd yn waith didostur, disgybledig, yn enwedig pan oedd y dyn amser a symud yn dod heibio. Yn ystod haf arall bu’n gweithio ar y switsfwrdd yn Hodges. Yn Mettoys’ teimlai’n falch iddi greu rhywbeth â’i dwylo ei hun.

VN014 Margaret Willams, Ffatri Staes, Caernarfon

Dechreuodd Margaret yn y Ffatri Staes yn 15 oed. Chafodd hi ddim dewis ond mynd i'r ffatri, meddai. ''Ond roedd mam wedi deud 'straight away', 'Unwaith ti'n 15, ti'n chwilio am waith.' Felly, roeddech chi'n gorfod gwneud beth oedd eich mam yn deud, felly, lawr i'r ffatri, ynte." Felly aeth hi lawr i'r ffatri corsedau efo ffrind a gofyn am waith. Roedd hi'n ennill 'papur punt, papur chweugian, hanner coron.' Os oedden nhw'n gweithio 'overtime', roedden nhw'n cael swllt ychwanegol. Roedd hi'n cael ei hyfforddi sut i wnïo yn syth, i wneud 'binding' a 'hems', roedd rhaid iddynt wnïo'n 'absolutely straight', ac roedd y defnydd i gyd wedi'i dorri yn gyntaf, 'joinio fo efo ei gilydd.' Roedd yr hyfforddi yn parhau tan roedd rhywun yn gallu handlo'r mashîn. Roedd chwaer Margaret yn ddall, ond cafodd Margaret swydd iddi yn y ffatri. Cafodd Margaret swydd fel 'supervisor' pan aeth un o'r 'supervisors', Nansi Fawr, i ffwrdd yn sal. Roedd llawer o sŵn o'r peiriannau ond mae'n deud bod y lle yn iawn i weithio ynddo. Amser cinio roedden nhw'n mynd i gael sglodion o'r siop ac achos ei bod hi'n agos i'r drws, roedd hi'n cael 'orders' gan y genod i'w nôl nhw. Roedd Margaret yn y ffatri staes am chwe mlynedd yn y lle cyntaf, ac am chwe mis bedair blynedd ar ôl priodi. Roedd hi gartref gyda'r plant ac wedyn ar ôl iddynt fynd i'r ysgol yn gwneud swyddi a oedd yn gweithio o’u cwmpas nhw, e.e. yn glanhau tai pobl, mewn ysgol, y 'cottage hosptial', ac wedyn fel cymorth cartref, ac yn y diwedd, roedd hi'n gweithio efo pobl anabl.

Administration