English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl enw'r ffatri

Compactau James Kaylor, Caernarfon

VN008 Mary Evans, Compactau James Kaylor, Caernarfon

Dechreudd Mary yn Kaylors yn 16 oed, ac roedd hi'n hoffi'r gwaith a'r cwmni. Ei gwaith hi oedd rhoi sglein ar y compactau ar ôl iddynt gael eu dipio mewn asid, a rhoi'r 'gems' ynddyn. Hefyd roedd hi'n gwneud y tiwb sy'n gwthio'r 'lipstick' i fyny. Roedden nhw'n cael y 'rejects' am ddim. Gwnaeth gwaith ffatri agor ei llygaid hefyd: “On i'n wrth fy modd yna. Odd pawb mwy at ei gilydd, odd ‘na genod 'rough and ready' ond on i'n licio nhw, on i'n rîli licio nhw. On i'n cael gwrando ar eu hanesion nhw, pethau on i ddim yn cael clywed adre, Arglwydd!” Ond roedd y pres yn wael - "dwy bunt a rhywbeth oedd o" - a gadawodd hi i fynd i Waterworth's. Cwrddodd hi â'i gŵr yn Waterworth's a gadawodd yn 1961 i gael plentyn ond dychwelodd flwyddyn yn ddiweddarach ac arhosodd yno tan 1962, pan wnaeth hi roi'r gorau i'r gwaith ffatri a mynd i weithio mewn swyddfa er mwyn ennill mwy o arian.

VN007 Dafydd Llewelyn, Compactau James Kaylor, Caernarfon;Bernard Wardell, Caernarfon

Dechreuodd Dafydd fel prentis 'tool setter' yn ffatri compactau Kaylor ar ôl gadael yr ysgol yn bymtheg oed. Roedd am fod yn yrrwr a dim ond am flwyddyn y bu'n y ffatri cyn cael swydd ar fan y Co-op. Prif waith Dafydd yn y ffatri oedd mynd rownd i newid tŵls ar y 'presses', a gwthio'r compactau i mewn i dwnnel lle roedd gwres yn mynd arnyn nhw, a phethau eraill fel 'maintenance', ond 'tool setter' oedd o i fod. Doedd o ddim yn hoffi'r swydd achos y ffordd roedden nhw'n trin pobl, yn enwedig y ddau fforman, ond dywedodd bod y genod yn grêt. Pan oedd yn cerdded lawr trwy'r mashîns roedd y merched yn tynnu ei goes a gweiddi “Ti isio 'thrill'?” a fo yn bymtheg oed! Roedd yn sôn am fynd i'r cantîn, a bod dynes neis yn gadael iddo dalu yfory os nag oedd digon o bres gynno fo. Dim pryd o fwyd oedden nhw'n ei serfio yno, ond snacs. Ac roedd rhai o'r merched hŷn yn edrych ar ei ôl o, er bod nhw'n deud pethau bach gwirion pan oedd yn pasio heibio, cael hwyl, wincio a phethau. Bu'n gweithio mewn ffatri arall, Bernard Wardell, ar ôl gadael Kaylors am gyfnod byr, ond gwaith gyrru oedd ei brif waith trwy gydol ei oes.
Y Ffatri Gompactau, tu mewn, gyda merched yn gweithio, 1950auY Ffatri Gompactau, tu mewn, 1950au

VN022 Megan Owen, Compactau James Kaylor, Caernarfon

Roedd Megan yn y ffatri gompactau am ugain mlynedd, gan ddechrau yno yn 15 oed. Doedd hi ddim wedi gadael yr ysgol yn swyddogol ond roedd ffrind ganddi, roedd wedi pasio’r ysgoloriaeth ac yn cael mynd i ysgol ramadeg, ond doedd hi ddim eisiau mynd, a dywedodd honno wrth Megan ei bod hi'n mynd i drio am swydd yn y ffatri compactau. Aeth y ddwy ohonynt i lawr i ofyn am swydd a llwyddon nhw, a chafodd Megan 'row' gan ei mam wedyn. Ar ei diwrnod cyntaf, roedden nhw wedi mynd yno "fel plant bach, socs bach gwyn a' ponytails', fath yn union â plant ysgol, ac yn giglan gwirion a ddim y gwbod be' i ddisgwyl." Roedden nhw'n rhoi’r rhai ifanc mewn ystafell efo'i gilydd lle roedden nhw'n rhoi’r pethau bach crwn yng nghanol y compactau i ddal y powdwr, a rhoi'r 'satin' o’i gwmpas o. Wedyn, roedd Megan yn dysgu gwaith arall, gweithio yn yr adran brintio am y rhan fwyaf o'r amser, yn rhoi'r patrwm ar y compactau mewn paent. Gadawodd hi am 12 mlynedd i fagu'i merch, ac yna dychwelyd tan i'r ffatri gau, tua 1984.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain
Darllenwch gyfieithiad Saesneg o'r clip sain hwn
Compact James Kaylor, 1950auCompact James Kaylor, 1940auCompactau James Kaylor, yr un â llythrennau o'r 1940au, yr un plaen o'r 1950au a'r un efo blodau o'r 1960auMegan yn cael tro ar y peiriant sgleinio, 1950au, © Dafydd Llewelyn

Cookes Explosives, Penrhyndeudraeth

VN030 Iorwerth Davies, Cookes Explosives, Penrhyndeudraeth

Bu Iorwerth yn gweithio yn Cookes Explosives am 46 o flynyddoedd, gan ddechrau yn 14 oed. Ni chafodd gyfweliad, aeth o i lawr i ofyn am swydd. Y pryd hwnnw, roedd y Blaid Lafur newydd ddod i'r brig a dechreuodd rheol newydd fod gweithwyr ifanc yn gorfod gorffen eu gwaith hanner awr cyn y gweithwyr hŷn, felly roedd Iorwerth yn gallu gadael y gwaith am 4.30. Roedd llawer o weithwyr ifanc yn Cookes achos ai llawer o bobl y pentref yno ar ôl gorffen yn yr ysgol. Roedd y bechgyn yn gorfod cyrraedd 16 a'r merched 18 oed i weithio efo'r ffrwydron. Gwnaeth Iorwerth nifer o swyddi yn Cookes yn ystod y 42 o flynyddoedd roedd o yno, gan ddechrau efo'r bagiau - 'paper shells' - yr oedd y ffrwydron yn mynd i mewn iddynt. Wedyn roedd y bagiau yma yn mynd i'r merched yn y lle pacio i gael eu llenwi efo ffrwydron. Ar ôl 16 oed, roedd o'n gweithio yn y cytiau efo merched a dynion eraill, dim efo'r ffrwydron eu hunain ond efo'r bagiau. Roedd dynion hefyd fel 'service waiters' yn mynd â bagiau rownd i bob cwt ac yn eu casglu nhw ar ôl iddynt gael eu llenwi. Symudodd i swyddi eraill yn ystod ei amser yno, gan orffen fel rheolwr cludiant, yn gofalu am gludo'r ffrwydron i ffwrdd i byllau glo - swydd gyfrifol iawn, achos roedd yn rhaid iddo eu gwneud nhw'n ddiogel trwy eu dad-ffiwsio nhw yn aml. Priododd un o ferched y cytiau, Mary

VN027 Beryl Jones, Cookes Explosives, Penrhyndeudraeth

Roedd Beryl yn gweithio yn Cookes am 4 blynedd, yn gyntaf yn yr adran brintio ac wedyn fel clerc yn y swyddfa gyflogau. Roedd hi'n nabod llawer o bobol yno cyn dechrau ac mae’n dweud ei bod hi fel teulu yno, pawb yn nabod ei gilydd, pawb yn hapus. Doedd hi ddim yn nerfus achos doedd na ddim son am ffrwydriad wedi bod yn ddiweddar; roedd hi wedi mynd oddi ‘na erbyn y ffrwydriad mawr yn 1957. Cwrddodd hi â'i gŵr yno a gadawodd hi ar ôl priodi yn 1954 i gael ei phlentyn cyntaf. Roedd ei gŵr yno am 35 o flynyddoedd, gan adael pan gaeodd y ffatri yn yr wythdegau. Gadawodd Beryl Cookes pan oedd hi'n disgwyl ei phlentyn cyntaf. Roedd gan ei mam ddwy o genod gartref ar y pryd felly doedd Beryl ddim eisiau iddi ofalu am ei phlentyn hi hefyd. Roedd Beryl yn ddigon bodlon i adael a’r amser hynny roedd merched yn priodi a chael plant. Ar ôl gadael Cookes, pan oedd ei phlant yn hŷn, aeth Beryl i weithio mewn siop ffrwythau ac wedyn cafodd hi swydd yn Bron Garth yn nyrsio, er nad oedd hi eisiau yn y dechrau, ond bu hi yno am 20 mlynedd. Ymddeolodd pan oedd yn rhaid iddi i warchod ei hwyrion.

VN016 Susie Jones, Cookes Explosives, Penrhyndeudraeth

Dechreuodd Susie yn Cookes Explosives yn 1933 yn 14 oed. Roedd y ffatri yn ddwy ran, y rhan gyntaf yn gwneud 'Mining Safety Explosives' a’r llall yn Cookes. Y criw ieuengaf oedd yn gweithio yn y 'detonators department', nid yn handlo 'dets' ond yn paratoi rhywbeth ar gyfer y 'dets', a doedd y lle dechreuodd hi weithio ddim yn beryglus o gwbl ond roedd y merched yn symud i fyny yn ôl eu hoedran. Symudodd Susie i'r adran 'wiring' a 'sheathing' a phan ddaeth y rhyfel, bu hi’n llenwi 'hand grenades', tair shifft a gwneud llawer o ffrindiau newydd. Ar ôl y rhyfel, roedd yn dal i weithio yn Cookes, yn yr adran bacio ond gan orffen yn y lab, yn testio gwahanol batshys o bowdra, yr unig hogan oedd yn y lab. Roedd hyn yn yr 1960au/70au. Bu’n gweithio yno am 46 mlynedd (ond dau ddiwrnod) - petai wedi aros am y ddau ddiwrnod arall byddai wedi cael blwyddyn yn fwy o bensiwn. Ond pan aeth i holi gwrthodwyd hi. Ymddeolodd yn 1979.
Susie yn derbyn set de am wasanaethu am 35 o flynyddoedd, 1968Adran y labordy, gyda Susie yr unig fenyw, 1970auParti ymddeol cydweithiwr, Susie yn y canol yn gwisgo mwclis, c.1950Susie efo ffrindiau yn y gwaith, 1940au

VN026 Blodwen Owen, Cookes Explosives, Penrhyndeudraeth

Gweithiodd Blodwen yn Cookes Explosives yn fuan ar ôl gadael yr ysgol tan iddi ymddeol yn 1970. Cafodd hi fwlch o 5 mlynedd pan gafodd hi ei phlant. Doedd y ffatri ddim yn lle cyfforddus i weithio ynddo yn enwedig yn ystod y rhyfel, pan oedden nhw'n gwneud 'hand grenades' ac roedd dwylo'r merched yn mynd yn felyn ac roedd ‘na arogl drwg yno o'r TNT, a oedd yn beryglus ofnadwy. Wrth ddisgrifio'r gwaith, dywedodd Blodwen fod ganddi 'stand' ac roedd hi'n rhoi 'grenade' arno a gwthio'r powdwr i mewn. Roedd rhai eraill yn peintio'r tu allan, naill ai yn wyrdd neu’n goch, ac ar ôl i'r paent sychu, roedden nhw'n eu llenwi nhw efo TNT. Ac wedyn swydd rhai o'r merched oedd goruchwylio i weld os oedd y 'grenades' wedi'u llenwi'n iawn, bod digon o bowdwr ynddynt. Os na, caent eu gwrthod ac roedd rhaid eu hail-lenwi nhw. Roedd Blodwen yn trio’u llenwi nhw yn iawn. Collodd hi chwaer, Elizabeth, yn y ffrwydriad mawr yn 1957, pan gafodd pedwar eu lladd. Roedd hi ar y pwyllgor gwaith yn yr 1960au hwyr. Ar ôl gweithio 25 o flynyddoedd, derbyniodd wats arian gan y cwmni ac mae'n ei gwisgo o hyd. Yn y diwedd, darganfu meddyg bod Blodwen yn dioddef o 'NG poisoning' a dywedodd wrthi na châi hi fynd yn ôl i'r gwaith, bod rhaid iddi orffen gwaith yr un diwrnod. Wedyn, bu hi'n gweithio mewn siop.
Blodwen yn y cantîn yn Cookes, 1960auPwyllgor Gwaith Cookes, Blodwen yn y rhes 1af ar y dde, 1960auYn derbyn cloc ar ei hymddeoliad gan Dr Stone, 1970Blodwen gyda chydweithwyr, 1940au

VN011 Marian Roberts, Cookes Explosives, Penrhyndeudraeth

Gweithiodd Marian yn gyntaf fel nyrs blant ar ôl gadael yr ysgol, ac yna dychwelodd i Benrhyndeudraeth. Gofynnodd ei thad, a oedd eisoes yn gweithio yn y ffatri bowdwr, i'r rheolwr a oedd swydd i'w ferch. Bu'n gweithio yn y ffreutur, yn gweini a glanhau am bedair blynedd, ac mae'n cofio'n dda y ffrwydriad mawr yn 1957: “On i wrth y crwc, a dyma 'na glec, a dyma'r crwc, a'r gadair 'ma, yn llithran ar hyd y cantîn fel 'na, a dim dropyn o ddŵr yn disgyn ohoni. A dyma ni i gyd yn rhedeg am y ffenestr, a Mrs Williams yn gweiddi, 'Peidiwch â mynd i'r ffenestr, mae peryg gwydrau.' Cafodd pedwar eu lladd y diwrnod hwnnw, yn y cwt 'na. Roedd o'n lle peryglus, ond doeddech chi ddim yn meddwl am hynny pan oeddech chi yno.” Mae hefyd yn cofio'r adeg roedden nhw'n ffilmio 'Inn of the Sixth Happiness' a llithrodd hi a ffrind allan o'r gwaith i gael llofnod Ingrid Bergman! Priododd hi ddyn a oedd yn gweithio yno hefyd a gadawodd hi i gael ei phlentyn cyntaf, yn 1959. Ddychwelodd hi ddim i'r ffatri ond dywedodd hi mai ei hamser yn Cookes oedd yr hapusaf yn ei bywyd gwaith.
Marian gyda gweithwyr y ffatri bowdwr. Mae ei gŵr hefyd yn y llun, ar y dde, 1950s

Cooper Webb, Bethesda

VN052 Enid Jones, Cooper Webb, Bethesda;Ferranti, Bangor

Swydd gyntaf Enid oedd yn Injaroc, yn 1955, a chafodd y swydd hon trwy ffrind ei mam, Mrs Morris, a oedd yn gwneud injaroc 8 gartref cyn gwerthu'r resipi i ffatri leol. Symudodd Enid i Ferrantis, ffatri electronics, ar ôl rhyw chwech mis a bu hi yno am 14 o flynyddoedd. Dywedodd: "Fuo fi ar y 'meter testing' am flynyddoedd. Hwnnw oedd y swydd fwyaf ges i. Testio 'meters' yn barod i fynd allan i Manweb. Cynhyrchu 'meters' electrig a beth oeddan ni yn ei alw yn 'ear defenders' i roi ar glustiau i fynd ar 'aeroplanes' a lot o ryw bethau bach oeddan nhw yn ei wneud yna. Roedd 'na ychydig o 'engineering' yna." Roedd llawer o sbort yno ac mae'n cofio sawl streic hefyd : “Llawer i streic am ryw ddiwrnod neu ddau. Achos y streic oedd tâl neu rywun wedi cael ei stopio a ddim yn haeddu cael ei sacio. Gadawodd hi i gael ei merch gyntaf yn 1970, ac roedd hyn yn drist iddi. Yr adeg honno, doeddech chi ddim yn mynd nôl ar ôl cael babi. Doedd na neb i warchod y plant i chi gael mynd yn ôl, meddai, er ei bod hi eisiau dychwelyd.

Copygraph, Trefforest

VSE006 Sylvia Ann Reardon, AB Metals, Abercynon;Copygraph, Trefforest

Disgrifia Sylvia ei mam yn gweithio fel glanhawraig ac yn croesawu faciwîs. Yna aeth i fyw mewn tŷ capel - caethwasanaeth. Roedd ei thad yn Gomiwnydd. Aeth Sylvia i Goleg Masnachol Clarke’s, gadael yn 18 (1966), gweithiodd i’r bwrdd trydan, yna’n ffatri Copygraph, Trefforest, roedd yn casáu yno a bu’n chwarae triwant. Yna aeth at gyflogwr mwya’r ardal AB Metals - i’r adran anfonebu lle gweithiai fel ci. Bu yno o 1959-1966. Teimlo fel cocsen bwysig yn yr olwyn. Ugain bws AB, er gorfod talu. Gwnaeth un camgymeriad enfawr gyda’r dogfennau allforio. Gwnâi’r ffatri diwnwyr ar gyfer teledu ac offer electronig arall. Manylion y swydd. Roedd rhai menywod yn gorfod arwyddo’r Ddeddf Gyfrinachau Swyddogol. Prosesau cymhleth. Nifer enfawr o gwsmeriaid. 4000 o weithwyr - diswyddiadau. Helpu ffrind i gael swydd mewn pwll glo. Ffyddlondeb i bobl ar eich llinell, ac yn eich swyddfa. Diwrnod cyntaf swyddfa orlawn ac ysmygu Woodbines. Lle gwych i weithio - rhoddodd hyder a medrau iddi. Cwyno am ddiffyg lle - tynnon nhw’r nenfwd lawr. Dim undeb i staff swyddfa - trefnu talu’n gyfrinachol. Dynion yn cael 75% yn fwy o gyflog na menywod. Bu’n gynrychiolydd Undeb. Cynilo gyda National Savings. Stori am roi 'dexadrine' ac amffetaminau i gyd-weithwyr i hybu cynhyrchiant. Symptomau diddyfnu wedyn. Cantinau ar wahân - swyddfa/llawr y ffatri. Bywyd cymdeithasol: mynd i glybiau; sgetsys. Cymryd gofal o fam ddi-briod. Doedd hi ddim yn cymysgu gyda merched llawr y ffatri. Rhoddodd y ffatri ryddid i fenywod. Miss AB. Cinio ysblennydd AB yng Nghaerdydd. Gadawodd gyntaf pan aeth ei gŵr i Huddersfield. Yr ail dro - dim pensiwn felly i weithio i lywodraeth leol.
Mae rhan o'r cyfweliad hwn ar gael fel ffeil sain

Administration