English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Chwilio'r Casgliad

Defnyddiwch y blychau i gyfyngu eich ymchwiliad
Chwilio am:
   Pob maes:
   Enw'r cyfwelai:
   Crynodeb:
   Enw'r ffatri:
   Lleoliad ffatri:
   Adysgrifau'r cyfweliadau:
   Teitlau lluniau:
   Cyfeirnod:

Darganfuwyd 1 cofnod.

VSE052 Marjorie (Marge) Rita Evans, Welsh Trust, Rhigos;Sobells, Rhigos

Gadawodd Marjorie yr ysgol yn 14 oed (1947) a dechrau yn Sobell’s. Dechreuodd wneud un 'coil' ar y tro a datblygu i wneud 10 ar y peiriant Westminster - peryglus am ei fod yn fawr ac yn gyflym iawn. Roedden nhw’n gwneud setiau teledu llawn gan gynnwys y cistiau yno. Pan aeth hi yno roedden nhw’n gwneud 'wirelesses' a gramoffonau nid setiau teledu. Roedden nhw’n defnyddio ffatri Murphy’s gerllaw i orfodi Sobell’s i roi gwell bonysau iddyn nhw. Tan iddyn nhw briodi rhoddai hi a’i gŵr eu pae i’w mamau. Cafodd ddamwain ond dim tâl salwch nac iawndal. Roedd gan ffatrïoedd enw gwael ond roedd hi’n ‘caru’’r gwaith. Roedd dynion a menywod yn gweithio ar y lein. Gwynt cŵyr, lle enfawr â baeau. Gofynnwyd iddi fynd i weithio yn Welsh Trust i hyfforddi gweithwyr ar y peiriannau mawr. Roedd y peiriannau ‘yn rhan ohonyn nhw’. Er bod hynny’n beryglus doedden nhw ddim yn hoffi gwisgo twrbanau. Undeb - y GMBU. Bu’n fforman am gyfnod ond dychwelodd at y peiriant. Dawnsio ar y penwythnosau. Dawns Nadolig yn y cantîn. Arhosodd yn Sobell’s am 12 mlynedd a gweithiodd yn Welsh Trust am 5 mlynedd. Gadawodd pan gafodd ei mab. Yn WT a oedd yn ffatri lai, roedden nhw’n weindio coiliau ar gyfer 'wirelesses' a theclynnau clyw. Ni allai fforddio teledu pan oedd yn Sobell's. Amser a symud - gweithiai hi ar gyflymder normal.
Marge Evans a chydweithwyr yn ffatri SobellsMarge Evans wrth ei pheiriant gwneud coiliau - y 'Westminster' - yn Ffatri SobellsMarge Evans yn eistedd wrth ei pheiriant gwneud coiliau - y 'Westminster' - yn Ffatri Sobells

Administration