VSE070 Michele Ryan, Ffatri wydr, Caerdydd
Gweithiodd Michele yn y ffatri yn ystod ei blwyddyn gyntaf yn y brifysgol (tua1969-70). Y gaeaf oedd hi ac roedd mewn sied frics â llawer o ffenestri wedi torri. Gwisgai fenig i symud y platiau gwydr o gwmpas. Roedd awydd arni i fod yn rhan o fywyd y dosbarth gweithiol. Roedd gan y menywod (30-40% o’r gweithlu) ddulliau i reoli’r lle a’r dynion yno. Noda fod Caerdydd yn yr 1960au yn dref ddiwydiannol a gweithgynhyrchu. Roedd y menywod yn ‘Bolshie’ - disgrifia ddefod derbyn un dyn ifanc i’r gwaith (pinsio a chythru amdano). Roedd hyn yn sicrhau na fyddai'r menywod yn cael eu dibrisio na'u herio. Gwaith gwahanol i’r dynion a’r menywod. Teimlai na châi’r menywod weithio ar y peiriannau - tâl uwch am hynny. Pan oedd yn y brifysgol, fel ffeminydd adain chwith, gwerthai gopïau o 'Women’s Voice' a’r 'Socialist Worker' y tu allan i Ffatri deledu Baird’s yn Bradford. Ar ôl y rhyfel buddsoddodd menywod lawer i gadw hunan-falchder y dynion - derbyniai menywod eu ffawd. Cyfleusterau amrwd. Arhosodd yno am rai wythnosau. Roedd rhyw ymdeimlad o berthyn yno. Noda sbeit rhai menywod ond hefyd eu haelioni a’u cefnogaeth dorfol. Nid oedd gweithwyr ffatri Caerdydd yn wleidyddol iawn.