English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


VN039 Olive Jones, Laura Ashley, Carno

Roedd Olive yn nani i blant Emlyn Hooson yn Llundain cyn dychwelyd i Garno a chael gwaith yn ffatri Laura Ashley yn 1968. Doedd dim llawer yn gweithio yno ar y pryd, tuag ugain, ac roedd y merched yn eistedd mewn dwy res gyda'r peiriannau. Dydy hi ddim yn cofio'i chyflog cyntaf ond roedd yn fwy nag oedd yr Hoosons yn ei dalu, gan ei bod hi'n byw yn eu tŷ. Mae'n cofio pan oedd hi ar 'piecework' ac roedd hynny'n galed ac roedd hi'n gweithio trwy amser cinio er mwyn gwneud pres. Roedden nhw hefyd yn dod i mewn yn gynharach yn y bore er mwyn dal i fyny efo'r gwaith. Roedd hi wedi dechrau ar yr hemiau i ddechrau, symud ymlaen ar ôl dysgu sut i wneud hynna at waith arall a dysgu sut i wneud hwnnw. Doedd Olive ddim yn meddwl bod y gwaith yn undonog chwaith: “Roedd gwahanol steil a gwahanol faint o overlocio arno fo. Ar rai o'r 'wedding dresses' roeddech chi'n overlocio lot o ddarnau, ynde, ond ar fathau eraill, efallai doedd dim cymaint - pethau fel sgert.” Roedd hi yno fel peiriannydd tan iddi gael ei phlentyn cyntaf yn 1979. Roedd hi'n meddwl am fynd yn ôl fel peiriannydd ond roedd 'piecework' wedi mynd mor gyflym, a dywedodd un o'r merched wrthi: “Oh, Olive, you'll never get your speed back up.” Felly aeth hi'n ôl fel glanhawraig yn y ffatri wedyn ac yn olaf bu'n gweithio yn y cantîn, yn gwasanaethu a glanhau, tan iddi ymddeol yn 2006
Merched  yn gweithio ar lawr Ffatri Laura Ashley, 1980sOlive  yn gweithio ar lawr Ffatri Laura Ashley, 1980sTîm pel-droed menywod Laura Ashley, gydag OLive yn y rhes cefn, yn y  canol,  1970s

Administration