VN009 Beti Davies, Ffatri wlan, Glyn Ceiriog
Gweithiodd Beti yn Ffatri Wlân Glyn Ceiriog yn syth ar ôl gadael yr ysgol, yn 14 oed. Roedd hefyd yn cadw tŷ i'w thad, ar ôl i'w mam farw. Ar ôl dechrau ar y 'bobbins', aeth ymlaen i weithio ar ddefnydd ar gyfer cotiau smart iawn, o safon uchel, a oedd mewn ffasiwn ar y pryd. Cafodd hi gyfle i brynu un: “Camel oedd un, a fel rhyw 'duck egg blue', o liw neis, a gaethon ni gynnig prynu côt am bum punt. Roedden nhw'n cadw pum swllt yr wythnos o'n cyflog ni nes on ni wedi talu'r pum punt. A mi ddedodd rhywun wrtha i bod y cotiau 'na yn werth pum punt ar hugain yn y siopau.” Roedd ei chwaer, Marion, yn gweithio yno hefyd. Gadawodd Beti flwyddyn cyn i'r ffatri gau yn 1951 ac aeth hi i weithio i'r Comisiwn Coedwigaeth. Priododd hi a chael mab ryw bedair blynedd ar ôl hynny a wnaeth hi ddim dychwelyd i'r gwaith. Roedd hi'n edrych ar ôl ei thad tan iddo farw. Aeth hi i lanhau mewn ysgol yn rhan amser am dipyn.