Gadawodd Kitty yr ysgol yn 14 oed (1944) ac ar ôl gweithio mewn londri aeth i swyddfa archebion bragdy Hancock’s (1947-). Byddai’n rhoi ei phecyn tâl i’w mam ond yna penderfynodd ei gadw iddi hi ei hun. Gallech gerdded i mewn ac allan o swyddi bryd hynny. Y menywod oedd yn poteli’r cwrw. Gwisgent ffedogau cynfas a chlocs ar gyfer rhai jobs. Roedd bragdai eraill gan y cwmni yng Nghaerdydd a Chasnewydd - cwrdd mewn dawnsfeydd. Byddai’n siopa ar ran un dyn oedd yn swyddfa gyda hi. Cwrddodd â’i gŵr yno. Caent dwrci fel rhodd Nadolig. Dim undeb a chafodd y rhai fentrodd ymuno eu diswyddo. Derbyniwyd yr undeb o’r diwedd (c.1948-50). Damweiniau - anafiadau gwael pan ffrwydrai potel - rhaid mynd i’r ysbyty. Caech eich diswyddo am ddwyn cwrw - chwilio’ch bagiau. Llawer o fân-ddwyn - rhai’n feddw yn y gwaith. Cerddoriaeth yn y cantîn a chyd-ganu. Y gyrwyr lori yn gweiddi ar y merched ond dim byd cas. Trip blynyddol i Lundain mewn trên arbennig gyda staff y bragdai eraill. Roedd timau pêl-droed a chriced i’r dynion a phêl-fas i’r merched. Bu yno 17-8 mlynedd (- tua1964-5).
Disgrifia Cynthia Abertawe adeg y rhyfel. Gadawodd yr ysgol yn 14 oed (1952) roedd Iddewon yn chwilio am ferched ifanc (rhad) i weithio yn eu ffatrïoedd. Dechreuodd yn Llamas yn gwneud nicers a chrysau pêl-droed, ond cafodd ei diswyddo ar ôl pythefnos. Doedd hi ddim yn gallu gwnïo a chuddiodd ddilledyn roedd wedi’i ddifetha. Roedd hysbyseb tu allan i ffatri Windsmoor (dillad menywod) am weithwyr. Cafodd ei hanfon i nôl cotwm streipiog a bwced o stêm! Yn Windsmoor galwodd cynrychiolydd yr Undeb hwy allan ar streic a chafodd 17 ohonynt eu diswyddo. Yna symudodd i Mettoys a ‘dyna ble dechreuodd fy mywyd.’ Hwyl fawr a gweithio mewn tîm. Gweithiodd ar y llinell gynhyrchu - jobs gwahanol - ac yn pacio. Cafodd un ffrind ei diswyddo am geisio dwyn roced tegan. Gadawodd Cynthia a gweithiodd mewn caffes a siopau. Yn Mettoys collodd un fenyw ei llaw - cafodd swydd ysgafn a iawndal. Dim llawer o iaith fras yno. Yn Llamas roeddent yn cael eu trin y wael. Mettoys oedd y gorau. Cafodd dyllau yn ei chlustiau yn y toiled yno. Cafodd ei brawd ei godi a’i hongian ar beg yn Windsmoor. Anfonid gweithwyr newydd i nôl sgriwdreifer heb lafn. Pawb ynghyd.
Gadawodd Glenys yr ysgol yn 14 oed (1946) a dilynodd ei ffrindiau i’r ffatrïoedd. Gweithiodd dros ruthr y Nadolig yn Mettoys (1947) ac yna aeth i ffatri newydd Louis Marx. Ei rhif oedd 312. Roedd staff y swyddfa ‘ychydig yn well’ na nhw – llieiniau ar eu byrddau yn y cantîn. Roedd hi’n gwneud gynnau pop a Daleks. Gwaith ar dasg. Byddai’r dyn amser a symud yn nodi’r targedi. Gadawodd pan oedd yn feichiog (gweithio yno 1948-54). Cael budd-dal mamolaeth os gweithio nes hyd at chwe mis. Canu ar y bws. Undebau yn eu stopio rhag gweithio os yn rhy boeth. Gwaith amrywiol. Timau pêl-droed a phêl-rwyd a chyngherddau yn y cantîn. Paentio ceir tegan â llaw. Glendid. Aeth rhywbeth i’w llygad – i’r ysbyty. Pawb yn helpu pawb. Swyddogion diogelwch wrth y giât. Iaith gref. Yn Mettoys clywsant hanes priodas y Frenhines dros y 'tannoy'. Munud o dawelwch yn Louis Marx pan fu farw’r Brenin. Tynnu coes. Dychwelyd i weithio rhan amser yn Louis Marx. Bu hefyd yn Smith’s Crisps cyn dychwelyd i Louis Marx. Ofn y peiriant mawr. Gwynto o greision. Gweithio fel robot yno.
Gadawodd Margaret yr ysgol yn 14 oed (1937) a gweithiodd mewn siopau ac fel 'usherette' tan ddechrau’r rhyfel. Dechreuodd hi yn Mettoys yn gwneud teganau gwych o haearn bwrw yn yr 1950au. Gweithiodd yn y warws ar y shifft gyda’r nos ond roedd yn cadw tŷ i wyth hefyd. Gallai’r gweithwyr brynu bag mawr o deganau am £5. Honna y câi siaradwyr Cymraeg eu cosbi petaent yn siarad yr iaith. Roedd llygod mawr yn y warws. Roedd Mettoys yn ‘gwerthfawrogi’ ei staff. Gadawodd yn tua 1973. Sonia am ddweud straeon aflednais. Dim damweiniau er bod plastig eirias yn dod o’r 'hopper'. Cofia glywed y newyddion am drychineb Aberfan. Bu’n gweithio ar lawr y ffatri hefyd. Gweithiai teuluoedd gyda’i gilydd. Roedd merch â Downs Syndrome yn gweithio yno - gwaith ysgafnach. Fyddech chi ddim yn swil ar ôl gweithio mewn ffatri.
Gadawodd Era yr ysgol yn 15oed (1948) ac ar ôl gweithio mewn londri, dechreuodd yn ffatri Smiths yn 1951/2. Disgrifia adrannau’r ffatri a sut y gweithiai popeth yn ôl chwibanau. Gwisgai sgarff dros ei gwallt. Ei gwaith hi oedd pacio’r bagiau creision. Roedd yn rhaid cael caniatâd i adael y peiriant. Pan oedd yn pigo’r creision â llaw âi’r bysedd yn dost am fod y creision yn finiog. Defnyddiai Nu-skin ar y briwiau. Gweithiodd yno am 5-6 mlynedd. Gwynt creision Smiths. Roedd y rhai fyny grisiau yn y gegin yn gorfod gwisgo clocs am fod y llawr yn llithrig gan olew. Byddent yn glanhau peiriannau eu hadran bob nos. Cylchdroi gwaith yn yr adran. Bagiau o halen a’r ystafell halen. Radio a chanu. Mantais prynu creision yn rhatach. Defnyddient lud i lynu’r pecynnau creision. Targedau a chael bonysau. Roedd rhai yn rhegi yn ofnadwy yno - roedd arni eu hofn. Pan briododd hi cafodd bythefnos i ffwrdd â thâl. Sonia am theatr yr Empire. Roedd yn rhaid iddi roi ei chyflog i’w mam tan ei bod yn 21 - dyna’r rheol. Gadawodd pan briododd (1956) - roedd y teithio yn dreth. Llawer o wthio i fynd ar y bws. Yn ddiweddarach gweithiodd yn Woolworth’s am 20 mlynedd.
VSE020 Jenny Kendrick, Ffatri Sigarau JR Freeman, Caerdydd;Smith's Crisps, Abertawe
Gweithiodd Jenny yn Smith’s Crisps, Abertawe yn ystod gwyliau’r haf ar ol gorffen yn y Brigfysgol yn1970 (yn 25 oed). Bu yno am dri mis. Roedd y ffatri’n gwneud Quavers a Chopitos. Rhoi 14 pecyn mewn bag. Roedd yn rhaid I’w ffrind godi Quavers drwg allan o’r saim sur ar y llinell gynhyrchu – yn sal bob hanner awr. Cafodd Jenny ei dyrchafu i tsiecio pwysau – gyda chlipfwrdd – yn pwyso samplau ac yn addasu’r peiriannau. Y berthynas â’r menywod eraill yn wych. Ail-bacio Chopitos o wastraff – gwaith annifyr. Sefyll drwy’r dydd a’i thraed yn brifo. Swnllyd iawn a chanu I ganeuon llawn hwyl fel Lola gan y Kinks. Clustnodi amserau toiledau. Haf poeth iawn. Dim diddordeb mewn undebaeth gan y menywod. Yn drewi o olew - defnyddio Cologne. Tân ond dim safonau iechyd a diogelwch. Menywod cryf iawn – yn rhedeg cartrefi a gweithio. Tynnu coes ond dim harasio rhywiol fel y profodd yn swyddfeydd Llundain. Dwyn pecynnau o greision. Yn ddiweddarach gweithiodd yn Freeman’s (rhwng 1966 a1970) lle câi sigarennau a sigars yn rhad. Yn y swyddfa yr oedd hi. Roedd gwaith swyddfa’n gofyn am ddim sgiliau ond cryfder mawr. Dylanwadodd ar ei ffeministiaeth. Roedd mwyafrif y menywod yn mwynhau’r gwaith a’r gallu i brynu mwy o bethau. Mae ganddi barch mawr at fenywod dosbarth gwaith.
Gadawodd Patricia Ysgol Dechnegol Abertawe yn 15 oed (1961) i weithio yn ffatri Addis yn gwneud brwsys llaw. Roedd hi ar 'inspection'. Arhosodd 2 flynedd. Yna i ffatri wnïo Windsmoor, yn gwneud dillad i’r fyddin (2 flynedd eto). Yna cafodd fab a dychwelodd i Addis - gwneud brwsys masgara. Yna bu’n Smith’s Crisps - byddai’r creision yn dod i lawr twndish a byddai’n rhoi’r bag glas o halen ym mhob pecyn. Arhosodd yno chwe mis ac yna i ffatri bop Corona, am 26 mlynedd (1966-92). Dechreuodd ar y llinell yn gwylio poteli pop yn mynd nôl a mlaen. Yna bu yn y seler yn gwneud pop a seidr ac yna ar y wagen fforch-godi yn symud 'pallets'. Pan gaeodd y ffatri aeth i Walkers’ eto ar y wagen fforch-godi a gweithio shifftiau nos hefyd. Roedd llawr y ffatri yn brysur iawn. Prynu seconds yn y ffatrïoedd. Yn Walkers’ os nad oedd gwaith - noson i ffwrdd a dim tâl. Damweiniau - bu yn yr ysbyty gyda llosgiadau asid o Corona. Mae ganddi dystysgrifau i yrru wagen fforch-godi. Roedd Walkers’ a Corona yn oer - rhewodd y pop. Prin yn gweld ei gŵr oherwydd shifftiau. Roedd Corona fel teulu - y ffatri orau. Gweithiodd mewn ffatrïoedd 1961-98. Yna gweithiodd yn y brifysgol.