English
Rhestru pob cofnod yn ôl:

Casgliad o gyfweliadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2013-14

Rhestru pob cofnod yn ôl:
Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r cyfweliadau


Trefnwyd yn ôl enw'r ffatri

Alan Paine, Rhydaman

VSW061 Eirlys Lewis, Vandervell Productions, Caerdydd;Mettoys, Fforestfach;Alan Paine, Rhydaman;Pullmans Flexolators, Rhydaman

Gadawodd Eirlys yr ysgol yn 15 oed (1964) a dechrau yn Pullman’s Flexolators, yn gwneud seddi ceir, sbrings a.y.b. Cyd-dynnu yno. Ysmygu wrth eu gwaith. Talu arian i’r Undeb ond nid % y Blaid Lafur. Gwaith brwnt. Un gwaith peryglus - rhoi cot o baent ar bethau oherwydd asid. Tynnu coes gweithwyr ifanc - nôl 'elbow grease'! Dysgu ffordd o fyw yno. Lot o regi yno. Clywed am drychineb Aberfan yn ffatri Alan Paine. Camgymeriad oedd mynd yno (9 mis yn unig); yna i Mettoys am dair blynedd (tua 1966-9), ar linell gynhyrchu’r ceir bach. Merched ffit yno. Yna gweithiodd ar fferm am 2 flynedd. Yn 1972 aeth i Vandervell Products, Tremorfa, Caerdydd - cynhyrchu cydrannau ceir a loris. Bu yno 10 mlynedd. Adran newydd (tua.1976) a merched yn cael gwneud yr un gwaith â’r dynion. Dyn yn gofyn am ei help. Cyfweliad ar y BBC am y gwaith. Gwaith 'mechanic'. Clwb cymdeithasol - chwarae 'ninepin bowling'. Arian da. Collodd un fenyw ei bysedd mewn peiriant - iawndal. Gwrthododd Eirlys ymuno â streic am y gwres yno yn 1976 - teimlai bod y cwmni wedi gwneud ei orau. Bu yn ‘coventry’ am 4 mis. Menyw yn gwrthwynebu iddi siarad Cymraeg - ateb yn ôl. Y merched ddim yn cael gweithio shifft nos. Yna priododd a threuliodd gyfnodau yn ffatrïoedd llaeth (Llangadog) a chaws ( Caerfyrddin).
Gweithwyr Vandervell Productions, Caerdydd

VSW017 Nan Morse, Deva Dogware, Gwynfe;Alan Paine, Rhydaman

Gadawodd Nan yr ysgol yn 15 oed (1965) a dechreuodd yn Deva Dogware yr haf hwnnw. Byddai’n torri cadwynau, weldio a.y.y.b. ar gyfer cadwynau cŵn a chŵn y deillion. Ffatri fach gyda’r perchennog yn un ohonynt. Tipyn o sŵn a chanu. Gwisgo hen ddillad a gogls. Rasio i wneud 50 cadwyn. Dim llawer o gyfleoedd yng nghefn gwlad am waith. Rhai gweithwyr yn mynd i Sioe Crufts. Gwneud beltiau iddynt hwy eu hunain ac ambell gaff dal samwn. Roedd yr adeilad yn gyntefig. Dysgodd sgiliau defnyddio llif a morthwyl a.y.b. Bu ar dripiau yn Blackpool a Llundain, lle prynodd bŵts gwyn. Roedd hi mewn grŵp pop Cymraeg gyda gweithwyr o’r ffatri. Gadawodd tua 1968. Aeth hi i weithio yn ffatri Alan Paine ond nid oedd yn hoffi awyrgylch y ffatri, lle roedden nhw’n gwneud siwmperi. Gadawodd pan oedd yn disgwyl babi.
Taith Deva Dogware i Lundain, 1967

VSW019 Patricia Murray, Penclawdd Bandage Factory, Penclawdd;Alan Paine, Rhydaman;John White, Rhydaman

Gadawodd Patricia yr ysgol yn 15 oed (1959) a dechrau gweithio yn y ffatri rwymynnau ym Mhenclawdd, yn gweu’r rhwymynnau. Profiad erchyll. Symudodd y ffatri i Garnant. Cerddodd y gweithwyr allan am ei bod yn rhy oer (1962). Cawsant waith yn syth gyda Corgi’s. Symudodd Pat i Ffatri Alan Paine. Gweithiai fel cysylltwraig ac yna yn cynhyrchu. Daeth yn hyfforddwraig ac yna’n oruchwylwraig. Gwaith crefftus iawn. Nododd y medryddion; dawnsio i ganeuon roc a ròl ar y radio; glanweithdra; codi cyflymder; y dillad yn cael eu hanfon nôl i Surrey i gael eu cwblhau. Roedd Paine’s (1966) yn prosesu’r cyfan. Roedd crèche yn Corgi’s, caewyd oherwydd rheoliadau. Gweithiodd o’i chartref (tua 1968-73) pan oedd y plant yn fach. Rhai jobsys yn talu’n well nag eraill. Fel aelod o staff - dim yn yr undeb. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn cynyddu. Dathliadau Nadolig - addurno’r llawr a’r peiriannau, cinio. Clwb cymdeithasol a thripiau. Cafodd tinnitus o weithio yno. Ymweliad y Dywysoges Anne. Caeodd y ffatri yn 1998. Bu’n gweithio yno am 33 mlynedd.
Gwobr y Frenhines Alan Paine, © Richard Firstbrook, Ffotografydd, Llandeilo

Alexon Steinberg, Trefforest

VSE064 Martha Irene Lewis (Rene), Bernard and Lakin, Aberpennar;Alexon Steinberg, Trefforest

Gadawodd Irene yr ysgol yn 14oed (1941) ac arhosodd gartref yn helpu ei mam am 4 blynedd cyn dechrau yn Ffatri Steinberg yn 1946 (ffatri newydd). Gweithiai ar y botymau - ar gyfer sgerti a siwtiau. Arferai fodelu’r dillad ar gyfer y rheolwr. Âi llawer o’r dillad i America - roeddent yn ddillad drud. Ar ddydd Sadyrnau caent ddiwrnodau agored - gallai pobl ddod i brynu dillad eilradd. Cafodd ei chwaer chwalfa nerfol tra roedd yn gweithio yno ond rhoddwyd job ysgafn iddi nes ei bod yn well (arhosodd yno am 50 mlynedd arall a chafodd wats aur!) Cerddoriaeth a chanu. Doedd hi ddim yn gallu fforddio dillad y ffatri. Roedd y ffatri yn sych oherwydd y dwst o’r dillad. Roedd yn boeth oherwydd eu bod yn gwneud dillad gaeaf trwm yn yr haf. Arhosodd yno tan 1952 a gadawodd pan oedd yn feichiog. Ar ddechrau’r 1960au aeth i weithio mewn ffatri ddillad arall - Bernard and Lakin. Bu yno am tua 3 blynedd.

Alupac, Blackmill

VSW042 Alison Rees, Alupac, Blackmill

Safodd Alison ei lefel A ac yna mynd i weithio i’r gwasanaeth llyfrgelloedd. Gweithiodd yn Alupac yn ystod y gwyliau(1977). Enillai c. £100 yr wythnos - arian da. Gwaith di-sgil - peiriant pres yn gwasgu llestri alwminiwm allan i fasgedi. Byddai hi’n eu casglu ynghyd a’u pacio. Ai darnau bychain o alwminiwm i’w gwallt a’i dillad gan grafu ei chroen. Rhaid gofyn i’r oruchwylwraig i fynd i’r toiled. Roedd hierarchaeth yno. Teimlai’n wahanol gan fod addysg yn bwysig i’w theulu. Dymuniad y gweithwyr eraill oedd cael swydd a ffitiai o gwmpas eu teuluoedd. Roedd y peiriant yn swnllyd a chyflym. Os nad ar y peiriant rhaid oedd tacluso a.y.b. Byddai sŵn y peiriant yn atseinio yn ei phen yn y nos. Gwnaeth y profiad hi’n benderfynol nad dyma’r yrfa iddi hi.

Anglo-Celtic Watch Co. (Ffatri 'Tic Toc'), Ystradgynlais

VSW068 Mair Williams, Anglo-Celtic Watch Co. (Ffatri 'Tic Toc'), Ystradgynlais

Lluniau o Anglo Celtic Watch Co. (Ffatri 'Tic Toc'), 1950au
Mair Jones (Williams), Netta Thomas & Ann Gosling, Ffatri 'Tic Toc', 1955Sally Evans, Eileen Evans, Netta Thomas & Pat (?) Ffatri 'Tic Toc', 1955Gweithwyr Anglo Celtic Watch Co. ('Tic Toc') amser  Nadolig 1954

Anglo-Celtic Watch Co. Ltd. (inc. Smith's Industries ac Ingersoll aka 'Tic Toc'), Ystradgynlais

VSW030 Di-enw, Berleis, Pontardawe;Anglo-Celtic Watch Co. Ltd. (inc. Smith's Industries ac Ingersoll aka 'Tic Toc'), Ystradgynlais;Economics, Pontardawe

Disgrifia y siaradwraig ei magwraeth. Gadawodd yr ysgol i weithio yn Woolworths’ cyn symud i ffatri Tic Toc (c. 1958), lle'r oedd yn ennill ‘lot o arian’. Gadawodd pan oedd yn feichiog (c. 1965). Pan oedd y plant yn fach dechreuodd yn ffatri Economics yn gwneud drymiau i waith y Mond (c.1970-1). Roedd hwn yn waith budr dan amodau swnllyd a gwael. Symudodd i weithio yng nghantîn Berlei’s (c.1971-81) a daeth yn rheolwraig yno. Disgrifia brynu bras am chwe cheiniog, amseru mynd i’r toiledau, ‘talwyr da’, undebaeth, cerddoriaeth, a thrip ar y trên i Lundain gyda ffatri Merthyr. Pan gaeodd y ffatri aeth yn ôl i Tic Toc (gwaith Rover) (1983-90). Daeth yn oruchwylwraig yno a gwnaeth radd mewn rheoli busnes.

VSW027 Joyce Evans, Anglo-Celtic Watch Co. Ltd. (inc. Smith's Industries ac Ingersoll aka 'Tic Toc'), Ystradgynlais

Gadawodd Joyce yr ysgol yn 15 oed (1947) a dechrau yn Tic Toc (1947-62) - yna 9 mlynedd ‘allan’ gyda’r plant a dychwelyd am 17 mlynedd (1971-88). Roedd yn anodd cael gwaith yn- rhaid tynnu llinynnau. Gwneud coiliau ar gyfer awyrennau. Pan ddechreuon nhw wneud watshys aeth ar 'inspection' ar safle’r Anglo - adeilad hyfryd di-lwch. Roedd ofn mynd i’r toiled arni ar y dechrau. Roedd bechgyn yr adran awtomatig yn chwibanu. Yn yr ardal ddi-lwch - gwisgo esgidiau rwber ac oferôls arbennig. Gwneud 3000 o watshys y diwrnod (eu setio â llaw) ac ymlaen i 7 rac reoleiddio arall cyn eu bod yn barod. Bu’n llenwi bylchau hefyd. Pan agorodd ffatri glociau Enfield hyfforddodd ar gyfer y shifft 4.30-9.30, menywod priod yn bennaf a drwgdeimlad rhyngddynt a’r shifft ddydd am eu bod yn taro’u targedi. Cyhoeddi priodasau yng Nghylchgrawn Tic Toc. Bu ei gŵr yn 'shop steward' gyda’r AEU. Rheolau caeth - Swyddog Personél. Anaf i’w chefn oherwydd y gwaith? Cafodd gloc Enfield gan ei chydweithwyr pan briododd yn 1951. Dosbarthiadau dawnsio, dawnsfeydd a thripiau. Doedd gan y gweithwyr newydd (1980au) ddim parch ac roedd eu hiaith yn anweddus.
Parti Nadolig y plant, Ffatri 'Tic Toc'Joyce Evans a ffrind tu allan i'r Anglo-Celtic Watch Co. ('Tic Toc')

VSW016 Catherine Evans, Anglo-Celtic Watch Co. Ltd. (inc. Smith's Industries ac Ingersoll aka 'Tic Toc'), Ystradgynlais

Gadawodd Catherine yr ysgol ramadeg yn 16 oed ac ar ôl cyfnod mewn siop aeth, fel pawb arall yn yr ardal, i weithio i Ffatri Tic Toc o tua 1958 tan iddi gael ei phlentyn cyntaf yn 1967. Disgrifia ddysgu’r grefft o gael watsh menyw i ‘anadlu’ a thynnu coes merched newydd. Cofia bartïon Nadolig y ffatri pan oedd yn blentyn a phrynu watshys yn rhatach. Sonia am rôl y fforman – dyn bob amser. Roedd yn lle glân iawn a hapus gyda thipyn o ganu. Cofia hi Gymraeg a Saesneg yno a phawb fel teulu.

VSW045 Mary Lyn Jones, Anglo-Celtic Watch Co. Ltd. (inc. Smith's Industries ac Ingersoll aka 'Tic Toc'), Ystradgynlais

Gadawodd Mary Goleg Technegol Pontardawe yn 16 oed yn 1960. Ar ôl cyfnod yn siop David Evans symudodd i weithio i adran gwneud casys watshys, ffatri Tic Toc (1963). Sonia am reolau’r siop aur yno ac am un ddamwain ddifrifol ar y ‘presses’. Roedd hi’n flin nad oedd modd i ferched y ffatri gael prentisiaethau yno. Roedd cael perthynas yn y ffatri yn help i gael swydd yno. Undebaeth - hi’n gwrthwynebu cyfrannu at y Blaid Lafur a disgrifia achosion ambell streic. Mae’n crybwyll nyrs y gwaith a’r damweiniau bychain. Gadawodd hi yn 1968 achos roedd hi eisiau gyrfa.

Administration